Mae’r gyfres cartwn newydd Caru Canu yn helpu plant i ganu ac odli
Published on: 4 Hydref 2019
Mae cyfres newydd S4C, a wnaed gyda chefnogaeth BookTrust Cymru, yn helpu plant yng Nghymru i ganu ac odli.
Mae cyfres ddiweddaraf Cynyrchiadau Twt, Caru Canu yn dechrau ar wasanaeth cyn-ysgol S4C, Cyw. Datblygwyd y gyfres mewn partneriaeth â Booktrust Cymru a Mudiad Meithrin.
Mae’r gyfres animeiddiedig hyfryd hon yn cynnig cyfle i wylio a chanu caneuon a hwiangerddi traddodiadol a chyfoes wrth ddysgu am anifeiliaid, ystumiau, cyfri a’r tywydd. Ac i’r rhai sydd angen amser tawel, mae ‘na hwiangerddi i’w helpu cysgu hefyd!
Mae 20 o ganeuon gwych ar gael i’w gwylio ar Cyw, ar blatfform ddarlledu S4C Clic, ac ar YouTube.
Mae tudalen ‘Caru Canu’ ar wefan Cyw hefyd ac yma dewch chi o hyd i eiriau’r caneuon a cherddoriaeth cefndir a fydd yn adnodd defnyddiol iawn i rieni, gwarchodwyr ac athrawon.
Topics: Rhyme, Welsh language, News, Wales