Amser Rhigwm Mawr Cymru – newyddion 10–14 Chwefror 2020

Published on: 13 Ionawr 2020

Rydym wedi ein cyffroi’n lân yma yn BookTrust Cymru gan fod Amser Rhigwm Mawr Cymru cyn bo hir. Mae ein dathliad Gymru-gyfan o ganeuon a rhigymau’n digwydd ar 10–14 Chwefror 2020. Y bwriad yw hybu diddanwch wrth rannu rhigymau Cymraeg a Saesneg i blant 0-5 oed yng Nghymru.

Big Welsh Rhyme Time 2020 certificate

Dyma grynhoad o’r holl ddifyrrwch rhigymol sydd ar y ffordd. Gobeithio eich bod chithau mor gyffrous â ni!

Bydd Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru, yn ysgrifennu cerdd arbennig ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru. Cerdd fydd yn llawn hwyl odli a barddoni.

Mae ein cystadleuaeth Amser Rhigwm Mawr Cymru yn rhoi cyfle i ennill blwch o lyfrau i’ch teulu, ysgol neu lyfrgell! Rydym ni eisiau gwybod beth yw’r rhigwm sy’n eich llonni chi. Bydd ein gwefan yn derbyn ceisiadau drwy gydol wythnos Amser Rhigwm Mawr Cymru – amser i chi feddwl!

Bydd 20,000 o sticeri a thystysgrifau yn cael eu dosbarthu i ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yng Nghymru.

Gan weithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru, rydym yn rhoi rhestr o’n hoff lyfrau odl yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Cadwch olwg am lyfrau sydd ar gael yn eich llyfrgell neu mewn siopau llyfrau lleol.

Hefyd, bydd blogiau, fideos gydag awgrymiadau ar sut i odli a chardiau cymdeithasol i bawb eu rhannu dros y we.

Cadwch olwg ar yr holl weithgarwch, a’r newyddion diweddaraf am Amser Rhigwm Mawr Cymru yma

Mother and young girl enjoying a book together

Cefnogaeth i Amser Rhigwm Mawr Cymru 2020

‘Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wrth ein boddau i gefnogi BookTrust Cymru gyda’u dathliad Amser Rhigwm Mawr Cymru. Rydym wedi dysgu o’n hymchwil bod cyflwyno rhigymau i fywyd teuluol, grwpiau babanod, cylchoedd chwarae a meithrinfeydd yn hybu agwedd chwareus tuag at iaith, yn datblygu sgiliau cymdeithasol ac yn cefnogi datblygiad holistig babanod a phlant bach. Mae’n arwain at hwyl a diddordeb mewn iaith sy’n parhau drwy gydol eu bywydau. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda chi.’

‘Mae PACEY Cymru yn hapus iawn i gefnogi prosiect Amser Rhigwm Mawr CymruBookTrust Cymru. Mae dysgu hwiangerddi’n hynod o bwysig yn ystod cyfnod ifanc plentyn gan eu bod yn darparu geirfa arbennig iawn i blant. Mae dilyn rhythm yn galluogi plentyn i ddilyn tôn a phatrwm, sef sgiliau sy’n hollbwysig wrth ddatblygu iaith yn ifanc. Bydd derbyn rhigymau a chaneuon mewn dwy iaith unwaith eto’n datblygu’r sgiliau hyn, ac yn darparu cynsail gref ar gyfer sgiliau llafar, iaith a chyfathrebu.’

‘Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gefnogi Amser Rhigwm Mawr Cymru 2020. Mae cynyddu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau ac ymwneud â llenyddiaeth yn un o’n blaenoriaethau ni fel sefydliad. Mae’n braf hefyd i barhau ein partneriaeth â BookTrust Cymru, a gweithio gyda’n gilydd i wella bywydau a llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.’

'Mae Cyngor Llyfrau Cymru wrth eu boddau i fod yn rhan o Amser Rhigwm Mawr Cymru. Mae cynnig cyfleoedd i rannu straeon mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol wrth ddatblygu sgiliau llafaredd darllenwyr ifanc. O lyfrau cyfoes ar fydr ac odl i hwiangerddi traddodiadol, gall llyfrau gyfoethogi'r profiadau hyn a bod yn adnoddau gwerthfawr i deuluoedd ac ymarferwyr ddod ag odli yn fyw. Gall rhigymau syml hefyd roi cyflwyniad i'r iaith, diwylliant a threftadaeth Gymraeg, gan agor y drws i ddyfodol dwyieithog.’

'Mae SCL Cymru yn falch o gefnogi Amser Rhigwm Mawr Cymru, gyda staff llyfrgelloedd yn cyflwyno ac yn arwain cannoedd o sesiynau ledled Cymru, gan helpu rhieni a phlant i ddarganfod beth sydd gan lyfrgelloedd i gynnig. Mae mwynhau rhigymau, caneuon a straeon o oedran ifanc yn helpu plant i ddysgu, cymdeithasu, chwarae ac, yn anad dim, cael hwyl. Rydym yn sicr y bydd yn ysbrydoli rhieni i gofrestru rhai bach ar gyfer eu cerdyn llyfrgell cyntaf, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i bobl o bob oed wneud ffrindiau mewn man cymdeithasol diogel a chroesawgar. Ynghyd â sticeri a thystysgrifau lliwgar i fynd adref gyda nhw i'w hatgoffa, rydyn ni'n hyderus y bydd y caneuon a'r rhigymau bywiog i’w clywed amser bath, amser gwely a thu hwnt.'

'Mae Ymwelwyr Iechyd ledled Cymru yn cymryd rhan yn rhaglen Dechrau Da sy’n darparu llyfrau dwyieithog i rieni rannu â’u plant ifanc.  Mae hyn wedi helpu hybu dwyieithrwydd, datblygiad iaith a lleferydd plant, cariad plant at lyfrau yn ogystal ag annog rhieni i dreulio amser tawel gyda’u plant.  Mae rhannu rhigymau a chaneuon yn rhan allweddol o hyn ac mae’r adnoddau hyn yn werthfawr iawn i Ymwelwyr Iechyd.'
Lesley Hill, Cadeirydd y Fforwm Ymwelwyr Penaethiaid Iechyd ac Uwch Reolwr Nyrsio ar gyfer Ymweld Iechyd yn Hywel Dda.

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Ymunwch gyda ni ar gyfer dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Hwyl rhigymu i bawb!

Dysgu rhagor