Mae gan bob plentyn yr hawl i’r llawenydd a ddaw o lyfrau: yr achos dros blant sydd ag anawsterau difrifol a dwys
Published on: 9 Rhagfyr 2019 Author: Deborah Robinson
Fe wnaeth Cynadleddau Gweithwyr Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru ddarparu hyfforddiant deinamig i Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar. Cefais y fraint o roi’r brif araith yn y digwyddiadau hyfryd hyn. Cynhaliwyd y cynadleddau yng ngogledd a de Cymru ym mis Tachwedd 2019, lle bu’r ymarferwyr yn ystyried y cwestiwn:
‘Sut gallwn gydweithio i sicrhau y gall pob plentyn yng Nghymru fwynhau’r pleser a ddaw o lyfrau a rhannu llyfrau?'
Yn unol ag ysbryd y cynadleddau, dadleuais fod yn rhaid i bob plentyn, gan gynnwys y sawl na fydd byth yn darllen drostynt eu hunain, gael eu hystyried yn ddefnyddwyr llyfrau go iawn. Mae’n rhaid iddynt gael eu cynnwys drwy gydnabod eu BOD yn ddinasyddion llythrennog a all elwa cymaint o rannu llyfrau ag unrhyw un arall, hyd yn oed os nad darllen yn annibynnol yw’r nod yn y tymor hir. Mae modd eu hystyried yn llythrennog wrth inni gymhwyso cysyniad Llythrennedd Cynhwysol. Dyma fudiad ym maes addysg gynhwysol sy’n ail fframio llythrennedd, nid yn unig fel darllen geiriau ond fel rhywbeth sy’n cynnwys math ehangach o ‘ddarllen’ megis dadgodio arwyddion, symbolau a lluniau. Gallwn hefyd ‘ddarllen’ ystumiau, iaith y corff ac ysgogiadau’r synhwyrau. Dadleuais, serch hynny, fod gan lyfrau le arbennig fel offer ar gyfer llythrennedd cynhwysol. Maent yn symbolau o berthyn i ddiwylliant.
Ar y pwynt hwn, dyma fi’n rhannu canfyddiadau prosiect ymchwil a wnes gyda BookTrust Cymru ynglŷn â manteision darllen er pleser i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y sawl sydd ag anghenion dysgu difrifol a dwys. Cafodd un darn o ddata effaith benodol ar ein cynulleidfa am ei fod yn cyd-fynd â’u barn ynglŷn â llyfrau fel offer ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol. Roedd y darn hwn o ddata ar ffurf sylw gan ymarferydd y blynyddoedd cynnar:
'Ar gyfer plant sydd ag anghenion addysgol arbennig, sy’n aml wedi’u hamgylchynu ag adnoddau ac offer a phethau ‘arbennig’, mae llyfr yn rhywbeth ychydig yn unigryw am ei fod, sut gallaf ddweud hyn, mae’n ‘normal’ a’r hyn dwi’n ei feddwl yw ei fod yn rhywbeth ‘cyffredin’ y mae pobl yn ei ddefnyddio yn y byd yn ehangach sydd heb unrhyw stigma ‘arbennig’. Mae’n braf iawn i blant a theuluoedd gael mwynhau’r cyffredinedd hynny. Dyma pam fod llyfrau mor bwysig.'
Dangosodd ein gwaith ymchwil fod rhannu llyfrau yn cael effaith gadarnhaol ar blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys effeithiau ar ddatblygiad ac ar les. Caiff yr effeithiau hyn eu cyflawni pan gyfunwn y llyfr cywir ag oedolyn cefnogol sy’n gyfarwydd iawn â hoffterau a cham datblygu’r plentyn. Er enghraifft, roedd modd i ni weld sut y gwnaeth un rhiant ddefnyddio goslef lafarganu i ddarllen stori i’w phlentyn am mai sŵn y stori ac nid lliwiau/delweddau’r llyfr yr oedd yn ei hoffi. Mewn enghraifft arall, roedd modd i ni weld sut y gwnaeth rhiant roi digonedd o amser i’w phlentyn brosesu’r lluniau a’r synwyriadau wrth ddarllen llyfr a roddwyd gan BookTrust Cymru o’r enw That’s not my Dinosaur.
Arweiniwyd y sesiynau gweithdy gan arbenigwyr ymroddedig yn maes ymarfer cynhwysol a archwiliai bynciau fel ‘Sut i wneud amser stori yn gynhwysol a hygyrch i blant byddar’ a ‘Sut i ddeall ymgysylltiad â llyfrau a sut i wneud y mwyaf ohono i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.’ Rhoddwyd adnoddau Blwch Gwych Bookstart i’r ymarferwyr, a oedd yn cynnwys copïau niferus o lyfrau wedi’u dethol yn arbennig i blant ifanc.
Yn olaf, mae’n bwysig dathlu nad yw BookTrust Cymru yn hepgor unrhyw blentyn, ac yn cydnabod bod pob un yn haeddu’r llawenydd o ddaw o lyfrau. Gwnaeth pawb a ddaeth i’r gynhadledd ddathlu’r ffaith honno a dangos eu hymroddiad i gynhwysiant llythrennog.
Mae Dr Deborah Robinson yn Athro Cynorthwyol Datblygu Athrawon ym Mhrifysgol Nottingham
Add a comment