Rhigymau mewn plentyndod cynnar
Published on: 15 Tachwedd 2018 Author: Dr Sarah Kuppen, seicolegydd siartredig
Mae rhigymau a hwiangerddi’n nodwedd gyffredin mewn plentyndod. Bydd plant wir yn mwynhau’r rhythm a’r ailadrodd, wrth eu llafarganu, eu darllen, eu dweud neu’u canu.
Mae rhigymau hefyd yn cynnig manteision addysgol. Nid yn unig y mae rhigymau a genir neu a ddywedir yn gyfle i gael agosrwydd a sbort, maen nhw’n darparu iaith lafar mewn ffordd sy’n hawdd i’r plentyn ymwneud ag ef. Mae’r ailadrodd, yr iaith, y synau a’r rhythm yn ei gwneud hi’n haws i blant ragweld beth fydd yn dod nesaf. Gall hyn wneud i eiriau’r rhigwm fod yn haws eu cofio, gan dynnu sylw at y synau unigol, sy’n gallu paratoi’r ffordd ar gyfer dysgu darllen.
Rhigymau a babis
Bu i astudiaethau ar ddatblygu iaith dynnu sylw ar bwysigrwydd bod yn sensitif i rythm wrth siarad. Pan fydd baban yn dod i gyswllt â’r iaith lafar am y tro cyntaf, fe’i clywir ganddo fel cadwyn o synau diystyr. Er mwyn datblygu dealltwriaeth, rhaid i’r plentyn dorri’r llif synau’n ddarnau ystyrlon, neu’n eiriau. Awgryma arbrofion fod gan fabanod becyn o sgiliau, gan gynnwys bod yn sensitif i rythm siarad, sy’n eu helpu i wneud hyn. Er enghraifft, fe all plant mor ifanc â naw mis oed ddefnyddio ciwiau, megis pan fydd sillaf yn cael ei bwysleisio, i’w hysbysu fod gair newydd yn dechrau. Mae hyn yn effeithiol iawn, am fod dros 90 y cant o eiriau deusill Saesneg yn dechrau â phwyslais ar y sillaf gyntaf. Awgryma pwysigrwydd cael ciw rhythmig, felly, y gallai clywed rhythmau, fel y rhai a geir mewn rhigymau, gefnogi datblygiad iaith plant.
Mae ymchwil bellach yn tueddu i gydnabod manteision rhoi amgylchfyd o iaith lafar gyfoethog i blant bach. Er enghraifft, mae’n bosib fod cyfathrebu addas i’r baban (infant-directed speech, IDS), neu’r hyn y bydd rhai pobl yn ei alw’n iaith babi, yn cefnogi datblygiad plant mewn ffordd gadarnhaol. Mae gan IDS lai o eiriau, mwy o ailadrodd, mwy o newidiadau mewn traw a rhythm, a geiriau cynnwys hirach na chyfathrebu addas i oedolion. Dengys ymchwil fod llawer o oedolion, brodyr a chwiorydd ac unigolion heb ddim profiad blaenorol o blant, yn defnyddio IDS ar draws ieithoedd a diwylliannau. Nid yn unig y mae’n well gan fabanod wrando arno, mae gan gyfathrebu addas i fabanod sawl nodwedd sy’n cefnogi iaith, ac fe all helpu gyda datblygu geirfa. Er nad ydym ni’n gwybod beth yw effaith uniongyrchol rhigymau, mae gorgyffwrdd mawr rhwng yr ailadrodd, yr amrywiaeth mawr mewn trawiau llais a’r pwyslais uwch ar eiriau cynnwys â’r hyn a geir mewn IDS, ac mae’n debygol y byddai’r manteision yn cael eu rhannu hefyd.
Rhigymau yn y blynyddoedd cynnar
I lawer o bobl, bydd rhannu llyfr gyda phlentyn yn weithgaredd i’w drysori. Mae plant wrth eu boddau â thestun sy’n odli, a byddan nhw’n eu dewis o flaen llyfrau eraill yn ddigymell. Daw’r pleser sy’n deillio o destun sy’n odli o’r rhythm cryf, a grëir gan y pwyslais a roddir bob yn ail ar sillafau trwm ac ysgafn. Gall yr ailadrodd a’r hyn sy’n ddisgwyliedig beri fod y gair sy’n odli a holl destun y rhigwm yn fwy cofiadwy. Mae cael profiad o eiriau sy’n odli hefyd yn arwain at ymwybyddiaeth o odl. Gellir adnabod odl neu gynnig geiriau sy’n odli. Dengys astudiaethau fod ymwybyddiaeth plentyn o odl yn rhagfynegi pa mor hawdd y bydd hi iddyn nhw ddysgu darllen.
Mae cyfuniad o fwynhad a manteision addysgol yn gwneud rhannu ac adrodd rhigymau’n ddewis delfrydol ar gyfer cyflwyno synau mewn iaith am y tro cyntaf yn y blynyddoedd cynnar.
Dr Sarah Kuppen, seicolegydd siartredig, awdur Little Kids, Big Dilemmas: Your parenting problems solved by science www.littledilemmas.com
Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru’n digwydd o ddydd Llun 26 tan ddydd Gwener 30 Tachwedd.
Topics: Rhyme, Welsh language, Wales