Hoff rigymau’r teulu ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru
Published on: 10 Chwefror 2020 Author: Simon a Zoe Fisher o Family Bookworms
Mae ein plant ni, sy’n 12, 11 a 7 oed yn ddarllenwyr brwd. Maen nhw wrth eu boddau â llyfrau o Gymru – ar ôl cael blas ar y rhai wnaethon nhw dderbyn o raglen Pori Drwy Stori BookTrust Cymru pan roedden nhw yn y Dosbarth Derbyn.
Daeth y rhigymau cyn y llyfrau: Hwiangerddi, cerddi nonsens, caneuon gwirion, gemau llawn symudiadau a siantiau yn y Saesneg a’r Gymraeg. Mae’r atgofion sydd gennon ni o fownsio ein plant ar ein gliniau i 'This is the way the gentleman rides' neu 'Dau gi bach yn mynd i’r coed' mor fyw heddiw â’r diwrnod y cawson nhw eu creu.
Dydyn ni fyth yn blino ar rythmau rhigymu
Rydyn ni’n edrych ymlaen at Amser Rhigwm Mawr Cymru bob blwyddyn i ddal ar y cyfle i rigymu fel teulu. Rydyn ni’n rhannu hwyl y gemau rhigymu – ar siwrnai car yn ddiweddar roedden ni i gyd mewn sterics â’r 'nun having fun with her hot cross buns'. Fe fydd yr arbenigwyr yn dweud wrthych chi bod rhigymau’n dda ar gyfer datblygiad llafaredd, parodrwydd i ddarllen a datblygiad iaith, ond rydyn ni yma i dystio am y berthynas arbennig y mae’n ei chreu rhwng rhiant a phlentyn, a’r pleser a’r mwynhad llwyr sydd i’w gael yn ei sgil.
Y llynedd yng Ngŵyl y Gelli roedd gan bob un ohonon ni ein hoff ddigwyddiadau unigol ond unwyd y teulu cyfan mewn llawenydd mawr wrth wylio Michael Rosen â’i rigymu ailadroddus doniol dros ben (roedd No Breathing in Class yn agoriad llygad), a Roger McGough yn canu caneuon gwirion (ond clyfar) gyda’r band LiTTLe MACHiNe.
Mae rhai o’n hoff lyfrau o’r flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys rhigymau sy’n swyno, yn cwestiynu ac yn taflu goleuni ar bethau.
Fe fuasen ni’n hoffi argymell yn arbennig barddoniaeth Nicola Davies, awdur o Bowys, i chi yn y llyfr A First Book of the Sea – trysorfa o odlau a rhythmau sy’n gymysgedd o chwarae ar eiriau, hiraeth a rhyfeddod. Chwarae gwirion darluniedig iawn a doniol dros ben wedi’i ysgrifennu mewn penillion odledig ydy Fables Gavin Puckett o’r gyfres Stables (darluniadau bendigêd gan Tor Freeman). Mae I Like to Put Food in My Welly Jason Korsner yn llyfr lluniau sy’n chwarae’n wych ag odli, trefn geiriau a nonsens ac yn gwneud ichi dorri allan i chwerthin, gyda darluniadau anhygoel gan Max Low, a Graffeg yn ei gyhoeddi.
Llond trol o hwyl gyda iaith
Does yna ddim amheuaeth nad ydy rhannu’r rhigymau a straeon hyn gyda’n gilydd wedi ein helpu ni i gefnogi ac ehangu geirfa ein plant. Trwy ddarllen yn uchel, rydyn ni’n gallu modelu mynegiant a chefnogi eu dealltwriaeth. Fe allwn ni hefyd eu helpu nhw i gael mynediad at destunau a chysyniadau sy’n ymestyn eu dirnadaeth. Ond yn fwy na dim (a’r rheswm go iawn pam ein bod ni’n ei wneud) ydy ein bod ni’n cael llond gwlad o hwyl gydag iaith ac yn treulio amser yn glos gyda’n gilydd fel teulu.
Twitter - @bookwormswales
Gwefan – familybookworms.wales
Topics: Family, Rhyme, Welsh language, Reading for pleasure, Features, Wales, Big Welsh Rhyme Time