English Cymraeg

Canllaw Llyfrau Gwych 2026-27: llyfrau o Gymru

Rhai o’n hoff lyfrau a gyhoeddwyd yn Gymraeg blwyddyn eleni.

Wrth siopa am deitlau Canllaw Llyfrau Gwych gydag ein partneriaid, bydd arian o’ch archeb yn cael ei roi i BookTrust: Bookshop.org (dolen gysylltiedig) 

Am lyfrau gan gyhoeddwyr o Gymru ewch i gwales.com

  • Beth yw’r Amser, Bwci Bo? / What’s the time, Bwci Bo?

    gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone 

    2026 2 i 7 years 

    • Picture books
    • Poetry and rhyme
    • Funny

    Cyfle i ddarllen am ddiwrnod prysur ym mywyd Bwci Bo, o amser brecwast hyd at amser gwely. Llyfr lliwgar, hwylog sydd yn cefnogi dealltwriaeth plant ifanc o drefn ac amser. 

  • The Jellyfish Jiggle

    gan Caryl Hart, darluniau gan Nicola Slater 

    2024 3 i 7 years 

    • Picture books
    • Poetry and rhyme

    Sgrialwch, nofiwch, siglwch ac ysgwydwch yn y stori odli hyfryd hon sydd wedi’i lleoli ar lan y môr a fydd yn gwneud i blant ddarllen ac ymuno yn y symudiadau! 

  • Cyw Bach

    gan Derek Bainton 

    2026 0 i 5 years 

    • Picture books

    Stori annwyl am Cyw Bach sy’n dechrau ffeindio’i ffordd yn y byd ar ôl gadael y cwt ieir am y tro cyntaf.

  • Nos Da, Jac Do

    gan Casia Wiliam, darluniau gan David Gregory 

    2026 3 i 5 years 

    • Picture books
    • Early Learning

    Hyd yn oed ar ôl diwrnod prysur yn garddio dydy Jac Do methu cysgu. Mae ei ffrind gorau Sali Mali yn trio popeth i help ei ffrind ond does dim byd yn gweithio. O’r diwedd mae hi’n meddwl am ddatrysiad anarferol i’r broblem sydd yn helpu ei ffrind. Stori berffaith i ddarllen cyn gwely. 

  • Dylan’s Park

    by Dylan Thomas; edited by Helen Docherty 

    2026 4 i 7 years 

    • Picture books
    • Diaries and journals
    • Historical

    Mae’r Dylan Thomas ifanc wrth ei fodd ag Abertawe, lle mae’n byw – ​“tref glan môr” – lle mae yna barc, yn llawn arswydau a thrysorau, lle mae ef a’i ffrindiau yn chwarae. Dyma atgof hyfryd a hiraethus o blentyndod oes a fu, a’r ansawdd chwareus a diniwed a welir o hyd. 

  • Rhewyn a’r Côrachod

    gan Catrin Angharad Jones, darluniau gan Sian Angharad 

    2026 4 i 7 years 

    • Picture books

    Pan mae Rhewyn, corrach sydd methu dal nodyn, yn sylweddol faint bynnag bydd e’n ymarfer bydd e byth yn ddigon da i fod yn rhan o gôr y corrachod gyda ei ffrindiau, mae’n defnyddio ei greadigrwydd a dyfeisgarwch i ddod o hyd i ffordd wahanol o allu perfformio gyda’i ffrindiau yn sioe Nadolig Pegwn y Gogledd. Llyfr Nadolig llawn hwyl sydd yn wych I ddarllen ar goedd.

  • The Secret World of Seahorses

    gan Nicola Davies, darluniau gan Lou Baker-Smith 

    2025 4 i 7 years 

    • Non-fiction
    • Early Learning

    Dysgwch am fyd hudolus ceffylau môr a rhai o’r heriau sy’n eu hwynebu yn y llyfr ffeithiol hwn sy’n llawn darluniau arbennig. 

  • Dirgelwch y Defaid

    gan Endaf Griffiths, darluniau gan James Cottell 

    2026 5 i 9 years 

    • Adventure
    • Chapter books
    • Mystery

    Pan mae holl ddefaid yr ardal yn dechrau diflannu mae 3 ffrind ifanc o gefn gwlad yn mynd ati i drio datrys y dirgelwch. Llyfr pennod gyda lluniau lliwgar i fachu diddordeb darllenwyr ifanc. 

  • Fresh

    gan Rhiannon Oliver, darluniau gan Chris Riddell 

    7 i 14 years 

    • Poetry and rhyme

    Casgliad o farddoniaeth fywiog i blant ysgol gynradd, wedi’i ysbrydoli gan ddigwyddiadau bob dydd a’r byd naturiol, wedi’i ddarlunio’n hyfryd gan Chris Riddell. 

  • 111 Ffaith Ffantastig

    gan Owain Siôn, darluniau gan Corb Davies 

    2026 7 i 11 years 

    • Non-fiction
    • Travel
    • Around the world

    Llyfr sydd yn ffrwydro gyda ffeithiau ffantastig a chartwnau doniol bydd yn bachu diddordeb hyd yn oed y darllenydd lleiaf brwdfrydig.

  • 10 Fascinating Stories from Welsh History

    gan Siân Lewis and Charlotte Williams, darluniau gan Kyle Legall 

    2026 7 i 11 years 

    • Historical
    • Non-fiction

    Cipolwg cynhwysol ac amrywiol a rhai o uchafbwyntiau hanes Cymru, wedi cyflwyno mewn ffordd deinadol bydd plant yn mwynhau. Bydd y llyfr hwn yn agor y drws i hanes Cymru I ddarllenwyr ifanc. 

  • Arwr Arfro: Dewis Dy Dynged

    gan Llinos Dafydd, darluniau gan Amelie Ahern-Williams 

    2026 7 i 11 years 

    • Adventure
    • Fantasy
    • Interactive
    • Myths and legends

    Llyfr sydd yn gadael i’r darllenydd dewis llwybr ei hun, wrth iddyn nhw ddod o hyd i’r allwedd sanctaidd ac achub teyrnas hudol Arfro.

  • Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen

    gan Siôn Tomos Owen 

    2026 7 i 11 years 

    • Adventure
    • Fantasy
    • Funny

    Mae bachgen sydd yn casáu darllen yn dechrau ar antur hudol bydd yn newid ei fywyd am byth. Mae’n llwyddo i oresgyn yr holl heriau rhyfeddol sydd o’i flaen nes, yn y pendraw, mae’n sylweddoli mai’r gyfrinach i fynd adref yw derbyn gwir bwysigrwydd straeon a darllen.

  • Quill and the Last Generation

    gan C M Lewis, darluniau gan Maria Vidal 

    2025 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Coming-of-age
    • Fantasy
    • Myths and legends

    Wedi’i hysbrydoli gan chwedlau Celtaidd a straeon Cymraeg, mae’r stori wych hon am fywyd, marwolaeth, tynged eneidiau dynol a’r dewrder i gofleidio eich tynged, hyd yn oed os yw’n eich dychryn, yn llawn cymeriadau cofiadwy. 

  • Holomonsters

    gan Lee Newbery, darluniau gan Alessandro D’Urso 

    9 i 14 years 

    • Adventure
    • Thriller

    Mae Newt Hawkin ar ben ei ddigon i fod yn chwarae gemau cyfrifiadurol fel rhan o Sgwad Datblygu Ieuenctid Holomonster. Ond pan mae’n ymddangos bod yr hologramau o angenfilod ychydig yn rhy real, mae Newt a’i ffrindiau newydd yn ymchwilio i’r hyn sy’n digwydd go iawn. Antur gyfareddol llawn cyffro. 

  • Y Cae Ras

    gan Manon Steffan Ros 

    2026 9 i 11 years 

    • Coming-of-age
    • ADHD

    Pan mae carwr pêl-droed, Mali yn rhedeg i ffwrdd achos dydy hi ddim yn teimlo fel ei bod hi’n ffitio mewn, mae hi’n darganfod bod gan bawb eu cyfrinachau a’r unig ffordd adref yw bod yn ti dy hun.