111 Ffaith Ffantastig
gan Owain Siôn, darluniau gan Corb Davies
Oedran diddordeb: 7 i 11
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Rily Publications, 2026
Am y llyfr hwn
O bytiau bachog am anifeiliaid i ffeithiau ffantastig am adeiladau anhygoel, mae’r llyfr hwn yn ffrwydro gyda ffeithiau rhyfeddol, hawdd i’w darllen bydd plant yn mwynhau pori drosodd a throsodd. Mae gosodiad y llyfr mewn i benodau byr gyda theitlau fel ‘Ych-a-Fi’, ‘Esgyrn Syfrdanol’ ac ‘Adeiladau Arbennig’ yn dal sylw'r darllenydd ar unwaith a bydd hwn yn apelio at unrhyw ddarllenydd ifanc sydd ddim yn mwynhau llyfrau sy’n drwch gyda geiriau. Mae’r penodau yn gymysgedd o bytiau byr a chartwnau doniol, sydd yn helpu gyda dealltwriaeth o’r ffeithiau. Hefyd, mae swigod siarad wedi britho ar hyd y tudalennau sydd yn tynnu sylw, ac yn esbonio unrhyw eirfa anarferol sydd yn ymddangos yn y testun. Mae’r dewis gofalus o ffeithiau ‘ffantastig’ ynghyd â’r gosodiad hwylog yn creu llyfr llawn sbri bydd plant yn mwynhau bodio drwyddo dro ar ôl tro.
Mae’r llyfr hwn hefyd ar gael yn Saesneg, sef 111 Fantastic Facts.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
20 o bobl Lliwgar Cymru
gan Natalie Jones, darluniau gan Telor Gwyn
5 i 9 years
-
10 Fascinating Stories from Welsh History
gan Siân Lewis and Charlotte Williams, darluniau gan Kyle Legall
7 i 11 years
-
Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd
gan Gail Sequeira, darluniau gan Valeriane Leblond
5 i 9 years
-
Guardians of the New Moon: Ming and Miaow’s Great Race - Selected for Bookbuzz Primary 2026
gan Eric Huang, darluniau gan Phùng Nguyên Quang
5 i 9 years