English Cymraeg

Green: The Story of Plant Life on Our Planet

gan Nicola Davies, darluniau gan Emily Sutton

Oedran diddordeb: 4 i 11
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Walker Books, 2023

  • Non-fiction

Am y llyfr hwn

Llyfr lluniau hyfryd yw hwn am blanhigion, sut maen nhw'n gweithio a sut gwnaethon nhw esblygu.

Yn llawn darluniadau manwl gwych gan Emily Sutton, mae'n tywys y darllenwr o fywyd cyntaf ar y ddaear yr holl ffordd i bryderon amgylcheddol yn y presennol.

Mae gan y testun ffeithiol hwn wresogrwydd a theimlad stori, sy'n ei wneud yn arbennig o addas ar gyfer darllenwyr iau sydd â diddordeb mewn bioleg a natur. Mae hefyd yn llyfr â neges rymus ar gyfer ein hoes: Gwyrdd wir yw'r lliw pwysicaf yn y byd.

Am yr awdur

Mae Nicola Davies wedi ysgrifennu mwy na 50 o lyfrau i blant: ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn mwy na 10 o ieithoedd gwahanol ac mae hi wedi ennill gwobrau mawr yn y DU, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Eidal a’r Almaen. 

Hyfforddodd Nicola fel sŵolegydd, gan ennill gradd mewn Gwyddorau Naturiol o Goleg y Brenin, Caergrawnt. Treuliodd rai blynyddoedd fel biolegydd maes ac astudiodd forfilod cefngrwm a gwyn ac ystlumod, cyn ymuno ag Uned Hanes Byd Natur y BBC fel ymchwilydd ac yna fel cyflwynydd. 

Ar ôl dechrau ei gyrfa ysgrifennu, daeth Nicola yn uwch ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa, ond mae hi wedi bod yn ysgrifennu’n llawn amser ers dros ddegawd. Erbyn hyn, mae hi’n cynnal gweithdai rheolaidd i blant ac oedolion i’w helpu i ddod o hyd i’w lleisiau fel awduron ac eiriolwyr dros natur. Yn 2017, hi enillodd gwobr gyntaf y Gymdeithas Llyfrgelloedd Ysgolion am Gyfraniad Eithriadol i Lyfrau Ffeithiol i Blant, ac yn 2018 cafodd pedwar o’i llyfrau eu cynnwys ar restr hir Gwobr Greenaway. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn