Enwogion o Fri: Nye - Bywyd Angerddol Aneurin Bevan
gan Manon Steffan Ros, darluniau gan Valériane Leblond
Oedran diddordeb: 8 i 9
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Llyfrau Broga, 2022
Am y llyfr hwn
Dyma lyfr arall yng nghyfres ardderchog 'Enwogion o Fry'. Mae'r llyfr yn llwyddo i gyfleu hanes y gwleidydd Aneurin Bevan o'i blentyndod caled yng nghymoedd y De, hyd at uchafbwynt ei yrfa, sef sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.
Llwyddiant y llyfr yw ei fod adrodd stori bywyd 'Nye' mewn ffordd syml ac effeithiol bydd yn bachu diddordeb darllenydd ifanc. Mae'r cyfuniad o'r testun cryno a'r lluniau unigryw yn cysylltu'r darllenwyr ifanc gyda hanes un o fawrion ein cenedl. Does dim syndod llwyddodd y llyfr i gipio gwobr 'Dewis y Darllenwyr' yng ngwobrau Tir Na Nog eleni.
Testun gwych ar gyfer datblygu gwaith ar draws y cwricwlwm yn enwedig ym meysydd: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Y Dyniaethau a Iechyd y Lles.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Rhewyn a’r Côrachod
gan Catrin Angharad Jones, darluniau gan Sian Angharad
4 i 7 years
-
Beth yw'r Amser, Bwci Bo? / What's the time, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
2 i 7 years
-
10 Fascinating Stories from Welsh History
gan Siân Lewis and Charlotte Williams, darluniau gan Kyle Legall
7 i 11 years
-
111 Ffaith Ffantastig
gan Owain Siôn, darluniau gan Corb Davies
7 i 11 years