English Cymraeg

Become a Genius in a Year

gan Mike Rampton, darluniau gan Gareth Williams

Oedran diddordeb: 8 i 12
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr HarperCollins, 2025

  • Funny
  • Non-fiction

Am y llyfr hwn

Atgyfnerthwch eich ymennydd gyda ffaith anhygoel ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn!

Darganfyddwch y gwir am driongl Bermwda, darllenwch am y defnydd syfrdanol o bryfed cop sombi robotig, a datgelwch y ffaith anhygoel bod traethau tywod gwyn wedi’u gwneud o bŵ pysgod parot! Wedi’ch arfogi â 365 o ffeithiau hynod ddiddorol, byddwch yn destun cenfigen eich ffrindiau ac yn wir athrylith ar radd enfawr! 

Mae’r llyfr ffeithiol hwn yn ddifyr iawn â’i ffeithiau bachog cryno a’i fformat dyddiol. Gall plant fwynhau archwilio’r llyfr yn rhydd neu ddilyn y calendr ar gyfer dogn dyddiol o wybodaeth wych.

Mae’r ffeithiau eu hunain wedi’u cyflwyno’n dda i fod yn hygyrch, tra’n cadw’r cydbwysedd cywir o hiwmor a diddordeb. Mae’r lluniau gan Gareth Williams hefyd yn ychwanegu at yr hwyl ac yn britho’r testun â chymeriadau ffraeth a ffeithluniau.  

Mae’r llyfr hwn yn berffaith i annog trefn ddarllen ddyddiol naill ai yn yr ysgol neu gartref - bydd y ffeithiau anhygoel yn sicr yn sbarduno trafodaethau!

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn