English Cymraeg

Cyw Bach

gan Derek Bainton

Oedran diddordeb: 3 i 6

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2026

  • Picture books

Am y llyfr hwn

Cyw Bach yw’r unig gyw iâr yn y cwt ieir. Mae ei deulu yn dotio arno. Mae Mam, Dad, Cyw Canol a Sgŵp y ci i gyd yn gwneud yn siŵr bod bywyd yn berffaith iddo. Ond pan mae Cyw Bach yn mentro i’r byd mawr tu hwnt i’r cwt ieir am y tro cyntaf, mae Cyw Bach yn sylweddoli nad fe yw’r unig gyw bach yn y byd. Mae’n darganfod bod cannoedd o gywion bach sydd yn debyd iddo fe. Mae Cyw Bach yn dechrau teimlo’n ansicr, ac yn dechrau cymharu ei hun gyda’r holl gywion bach eraill sydd o gwmpas. Ond yn y pendraw, mae’n sylweddoli bod pob Cyw Bach werth y byd – does dim un yn well na’r llall. Mae hyn yn gwneud i Gyw Bach teimlo’n lot hapusach am ei hun ac mae’n helpu iddo wneud ffrindiau gyda’r cywion eraill. Dyma stori annwyl i helpu plant ifanc dechrau deall y byd o’u cwmpas.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn