English Cymraeg

Diwrnod Cyntaf Wini

gan Mari George, darluniau gan Leonie Servini

Oedran diddordeb: 3 i 6
Oedran darllen: 6+

Cyhoeddwr Rily Publications, 2024

Am y llyfr hwn

Mae Wini’n gyffrous am ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol ond mae ei theimladau’n newid ar ôl i’w chynffon blewog fynd yn sownd yn y rhaff sgipio ar yr iard gan achosi iddi gwympo. Mae hi’n teimlo’n drist pan mae ei ffrindiau yn chwerthin a gwneud hwyl am ei phen. Mae’r brwdfrydedd oedd ganddi ar gyfer yr ysgol yn diflannu. Yn y prynhawn, mae Wini yn sylwi ar yr athrawes yn canmol gwaith celf un o’r anifeiliaid nad oedd yn garedig iddi. Achos ei bod hi wedi brifo gan yr hyn oedd wedi digwydd ar yr iard mae Wini yn penderfynu dwyn y llun. Fodd bynnag, pan mae aelod arall o’r dosbarth yn dod o hyd i’r darlun ym mag Wini mai hi’n difaru yn syth ond mae hi’n esbonio bod y plant eraill wedi bod yn gas iddi hi hefyd. Mae’r athrawes yn siarad gyda’r holl ddosbarth am bwysigrwydd bod yn garedig ac mae Wini a’i ffrindiau yn dysgu gwers bwysig iawn, am sut i fod yn ffrind da. Gyda lluniau trawiadol a thestun ar ffurf fudr ac odl mae hon yn ddewis gwych ar gyfer unrhyw blentyn sydd ar fin dechrau ar ei taith trwy’r ysgol.

Mae'r llyfr yma hefyd ar gael yn Saesneg, fel Wini's first day. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn