English Cymraeg

Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: llyfrau o Gymru

Rhai o’n hoff lyfrau a gyhoeddwyd yn Gymraeg blwyddyn eleni.

Wrth siopa am deitlau Canllaw Llyfrau Gwych gydag ein partneriaid, bydd arian o’ch archeb yn cael ei roi i BookTrust: Bookshop.org (dolen gysylltiedig) 

Am lyfrau gan gyhoeddwyr o Gymru ewch i gwales.com

  • Diwrnod Cyntaf Wini

    2024 3 i 7 years 

    Ar ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol mae Wini a’i chyfeillion yn dysgu gwersi pwysig am sut i fod yn ffrind da. Dewis gwych ar gyfer plant sydd yn cychwyn ar eu taith trwy’r ysgol.

  • Cyfri Defaid

    2025 3 i 7 years 

    • Picture books

    Pan mae’n dod at fathemateg, Mostyn yw’r ddafad gorau yn y wlad, ond ydy e’n gallu dod o hyd I ffordd I gadw ar ddihun yn ddigon hir i gyfri’r holl ddefaid yn y praidd? Llyfr lliwgar llawn hwyl am ddatrys y problemau mwyaf gwirion!

  • Nos Da Blob

    2025 4 i 5 years 

    • Funny
    • Picture books

    Wrth i’r haul fachlud, mae angenfilod bach ym mhobman yn paratoi ar gyfer y gwely. Pa un a ydych chi’n sgerbwd, yn fampir neu’n fwgan, mae dal angen i chi dacluso eich teganau, brwsio eich dannedd a swatio yn barod am stori amser gwely. Stori amser gwely ddireidus sy’n odli ar gyfer angenfilod bach cysglyd.

  • A Home for Spark the Dragon

    2025 3 i 5 years 

    • Picture books

    Pan fydd cartref Spark yn cael ei ddinistrio mewn storm, does ganddo ddim unlle i fyw. A wnaiff e fyth ddod o hyd i gartref newydd? Yn dathlu caredigrwydd a chyfeillgarwch, mae hon yn stori swynol â lluniau bendigedig. 

  • Ni a Nhw

    2024 5 i 9 years 

    • Picture books
    • Funny

    Pan mae gwiwer chwilfrydig a thwrch daear busneslyd yn mentro i rannau anghyfarwydd y goedwig, maen nhw’n dod o hyd i gyfeillgarwch a hwyl gyda’r nhw’ dieithr maen nhw wedi cael eu rhybuddio yn erbyn. Llyfr arbennig o glyfar a doniol gyda neges bwysig wrth galon y stori.

  • Fy Bindi

    2024 5 i 9 years 

    Pan ddaw’r diwrnod i Divya wisgo bindi am y tro cyntaf mae hi’n profi corwynt o wahanol emosiynau. Ond wrth siarad gyda’r plant eraill yn y dosbarth am ei phrofiadau mae hi’n darganfod llawenydd, cryfder a balchder yn ei hunaniaeth Hindŵaidd.

  • Ysgol Arswyd

    2024 5 i 9 years 

    • Poetry and rhyme

    Pan mae disgybl newydd yn dechrau yn Ysgol Arswyd mae hi’n teimlo’n nerfus iawn ond mae’r ansicrwydd yn diflannu’n gyflym wrth iddi sylweddoli mai codi gwên nid codi ofn yw bwriad bwystiflod yn yr ysgol hon. Llyfr llawn hwyl yn enwedig ar Galan Gaeaf!

  • Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?

    2025 5 i 9 years 

    • Funny
    • Fantasy

    Ar ôl cael ei wahardd rhag mynd ar y trip ysgol ddiweddaraf mae Dylan yn gwneud dymuniad i bob athro yn y byd diflannu. Ond pan ddaw’r dymuniad yn wir nid yw bywyd mor braf a’r hyn roedd Dylan wedi ddisgwyl. Llyfr llawn hwyl sydd yn rhybuddio’r darllenydd i fod yn ofalus am yr hyn maen nhw’n dymuno.

  • Unfairies

    2025 5 i 11 years 

    • Adventure
    • Fantasy
    • Funny
    • Graphic novels

    Pan mae cyflenwad bwyd y tylwyth teg yn llwydo mae Pip, y tylwyth teg di-glem a hoffus sydd wrth galon y stori, yn cael ei dynnu i drobwll o gynllwynio gwleidyddol. Nofel graffig llawn lliw, doniolwch ac anarchiaeth.

  • Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd

    2025 5 i 9 years 

    • Around the world
    • Diversity and inclusion

    Mewn ymdrech i atal clwb garddio’r ysgol rhag cau, mae’r aelodau yn penderfynu defnyddio cynnyrch yr ardd i gynnal gŵyl fwyd y stryd. Ond a fydd hwn yn ddigon i achub y clwb arbennig? Llyfr atyniadol, llawn gwybodaeth sy’n rhoi cipolwg ar sut all fwyd newid bywydau plant er gwell.

  • 20 o bobl Lliwgar Cymru

    2024 5 i 9 years 

    • Diversity and inclusion
    • Non-fiction

    Dyma lyfr sy’n cyflwyno 20 o’r bobl Ddu ac Asiaidd mwyaf diddorol ac ysbrydoledig sydd yn byw yng Nghymru heddiw, mewn ffordd sydd yn hwylus ac yn atyniadol i ddarllenwyr ifanc.

  • Megs

    2024 5 i 9 years 

    • Adventure
    • Chapter books
    • Mystery
    • Autistic spectrum conditions

    Pan mae Meg yn sylwi bod ei ffrind Mr Beynon wedi mynd ar goll mae ganddi deimlad annifyr efallai mai arni hi, a’i hymdrechion i helpu iddo ddod o hyd i gymar newydd ar y we, sydd ar fai. Ond gyda help ei chi a ffrind da, mae Meg sydd yn niwroamrywiol, yn llwyddo ffeindio’i ffordd trwy’r byd heriol o’i chwmpas i ddatrys y dirgelwch a helpu ei ffrind.

  • Red Sky in the Morning, Poet’s Warning

    2025 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Funny
    • Poetry and rhyme

    Mae’r casgliad hwn o gerddi doniol, sy’n peri rhywun i feddwl ac yn llawn dychymyg am y byd o’n cwmpas wedi’i gyfansoddi gan Fardd Llawryfog Plant Cymru. 

  • Feather

    2024 9 i 14 years 

    Am gyhyd ag y gall Huw ei gofio, mae Nan wedi gwrthod siarad am ei brawd Johnny, ond wrth iddi ildio i afael dementia, mae’n rhannu digon o wybodaeth i Huw a’i ffrindiau ymchwilio i’r ffeithiau am yr hyn a ddigwyddodd i Johnny mewn gwirionedd yr holl flynyddoedd hynny yn ôl.

  • Gwen ac Arianrhod

    2025 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Coming-of-age
    • Graphic novels
    • Diversity and inclusion

    Ar ôl marwolaeth ei ffrind gorau ac ar ôl iddi symud o un ochr y wlad i’r llall mae Gwen yn teimlo’n unig ac yn ynysig. Ond mae cyfeillgarwch annisgwyl gyda môr-forwyn sy’n hoffi cynllunio dillad yn helpu iddi ail-ddarganfod ei chryfder a’i hunanhyder. Dyma nofel graffeg drawiadol sy’n sôn am golled, unigrwydd a phwysigrwydd cyfeillgarwch.

  • Y Llwynog Melfed

    2019 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Fantasy
    • Historical
    • Thriller

    Stori arswydus a chythryblus am bobl arallfydol, dial a thegan meddal sinistr, wedi’i gosod yn oes Fictoria.