Ni a Nhw
gan Sioned Wyn Roberts, darluniau gan Eric Heyman
Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 6+
Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2024
Am y llyfr hwn
Mae bywyd yn y goedwig yn un syml gyda phob anifail yn gwybod eu lle. Mae’r wiwerod coch yn treulio eu dyddiau i fyny yn y canghennau, tra bod y tyrchod daear yn brysur yn palu twnneli o dan y ddaear. Mae pob grŵp o anifeiliaid yn hapus eu byd gyda’r llefydd a’r creaduriaid sydd yn gyfarwydd iddyn nhw. Ond pan mae wiwer chwilfrydig a thwrch daear busneslyd yn dechrau gofyn cwestiynau am beth sydd tu hwnt i’r byd cyfarwydd o’u cwmpas, daw rhybudd i beidio mentro i fyd sydd yn ddiethr. Mae’r gwiwerod a’r tyrchod daear yn dysgu eu plantos i ofni'r ‘nhw’ anghyfarwydd sydd tu hwnt i’w byd. Yn ffodus, mae chwilfrydedd y wiwer a’r twrch yn gryfach na’u hofnau a phan mae’r ddau yn cyfarfod maen nhw’n dod yn ffrindiau mawr. Mae hwn yn llyfr dyfeisgar llawn hwyl gan gyn-enillydd gwobr Tir Na-Og Sioned Wyn Roberts. Caiff plant eu hudo gan y ffaith ei bod hi’n bosib darllen y llyfr o’r cefn i’r blaen neu o’r blaen i’r cefn, bydd y darluniau trawiadol yn helpu plant i ymgysylltu’n bellach gyda’r neges bwysig sydd wrth galon y stori hon.
Cyhoeddwyd y llyfr yma yn Gymraeg.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Fy Bindi
5 i 9 years
-
Ysgol Arswyd
5 i 9 years
-
Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?
5 i 9 years
-
Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: llyfrau o Gymru
Rhai o'n hoff lyfrau a gyhoeddwyd yn Gymraeg blwyddyn eleni.