Fy Bindi
gan Gita Varadarajan, darluniau gan Archana Sreenivasan
Oedran diddordeb: 6+
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Graffeg Books, 2024
Am y llyfr hwn
Mae Divya wedi hen arfer gweld ei mam yn gwisgo bindi ac mae’n gwrando’n astud wrth iddi esbonio ei arwyddocâd a’i bwysigrwydd fel rhan o’r diwylliant Hindŵaidd. Ond pan ddaw’n amser i wisgo bindi ei hun, mae Divya yn amheus. Er ei bod hi wedi hudo gan brydferthwch y bindis ac yn gyffrous i gael pigo un ei hun, mae’r gwirionedd o orfod mynd i’r ysgol yn gwisgo bindi, a bod yn wahanol yn gwneud iddi deimlo’n nerfus. Er bod ei ffrindiau i gyd yn gyffrous pan mae hi’n cyrraedd yr ysgol mae Devya dal i deimlo’n ansicr pan mae’r athrawes yn gofyn iddi siarad am ei bindi o flaen y dosbarth. Fodd bynnag, wrth sefyll o flaen pawb mae Divya yn dod o hyd i gryfder, llawenydd a balchder wrth sôn am ei bindi a’i gysylltiad gyda’i hunaniaeth Hindŵaidd. Gyda darluniau hardd a stori dwymgalon mae hwn yn llyfr sydd yn dathlu ein cymdeithas amrywiol.
Mae'r llyfr yma hefyd ar gael yn Saesneg, fel My Bindi.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Ni a Nhw
5 i 9 years
-
Ysgol Arswyd
5 i 9 years
-
Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd
5 i 9 years
-
Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: llyfrau o Gymru
Rhai o'n hoff lyfrau a gyhoeddwyd yn Gymraeg blwyddyn eleni.