English Cymraeg

Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd

gan Gail Sequeira, darluniau gan Valeriane Leblond

Oedran diddordeb: 7 i 9
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2025

  • Around the world
  • Diversity and inclusion

Am y llyfr hwn

Pan mae clwb garddio’r ysgol yn dod o dan fygythiad mae’r aelodau ifanc yn penderfynu cynnal gŵyl fwyd y stryd er mwyn codi digon o arian i brynu’r ardd drostyn nhw eu hunain. Fe ddaw’n amlwg bod angerdd yr aelodau dros amddiffyn yr ardd, yn dod nid yn unig o fwynhau garddio, ond hefyd o’r hunanhyder a’r cyfeillgarwch mae’r clwb wedi meithrin ynddyn nhw. Mae’r aelodau yn defnyddio eu cefndiroedd bwyd amrywiol er mwyn coginio’r cynnyrch o’r ardd yn barod ar gyfer yr ŵyl. A thra’r paratoi’r bwyd, mae’r disgyblion yn dysgu nid yn unig ryseitiau newydd ond hefyd sut i ddeall a dathlu cefndiroedd diwylliedig amrywiol ei gilydd. Mae’r ffordd mae’r awdur yn plethu’r ryseitiau trwy’r stori yn siŵr o fachu diddordeb darllenwyr ac, o bosib, yn rhoi ysbrydoliaeth iddynt roi cynnig ar greu un o’r prydau ei hun. Mae’r map lliwgar ar ddechrau’r stori yn arwyddocaol o’r darluniau trawiadol sydd trwyddi draw. Mae llyfr hwn yn ddathliad go iawn o’r effaith cadarnhaol gall bwyd gael ar gymdeithas, yn enwedig ar fywydau plant.

Mae'r llyfr yma hefyd ar gael yn Saesneg, fel The Street Food Festival. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn