Megs
gan Meleri Wyn James, darluniau gan Shari Llywelyn
Oedran diddordeb: 7 i 10
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Lolfa, 2024
Am y llyfr hwn
Pan dydy ffrind a chymydog Meg, Mr Beynon, ddim yn ateb ei ddrws mae hi’n gwybod bod rhywbeth mawr o le ac mae mentro mewn i’r tŷ gwag yn cadarnhau eu hamheuon. Mae gan Meg deimlad bod eu hymdrechion i helpu ei ffrind dod o hyd i gymar newydd ar y we, er mwyn iddo deimlo’n llai unig, yn gyfrifol am y ffaith ei fod wedi diflannu. Gan ei bod hi’n teimlo’n euog ac yn poeni am sut bydd yr oedolion yn ei bywyd yn ymateb, mae Meg, sydd yn niwroamrywiol, yn penderfynu peidio rhannu’r gyfrinach gyda neb. Mae hi’n benderfynol o ddatrys y dirgelwch a dod o hyd i’w ffrind ar ben ei hun. Wrth i amser mynd yn ei blaen mae pryderon Meg am ei ffrind yn cynyddu ond mae hi hefyd yn agosau at ddatrys y dirgelwch. Gyda’r diwedd o fewn cyrraedd mae’n rhaid i Meg mentro tu hwnt i’w milltir sgwâr i fwrw ymlaen gyda'i ymholiadau. Gyda help ei chi ffyddlon a ffrind triw mae hi’n llwyddo i ddianc rhag perygl a dod o hyd i’w ffrind. Dyma lyfr sydd yn dathlu cyfeillgarwch yn ei holl wahanol ffyrdd ac yn pwysleisio bod y ffrindiau mwyaf annisgwyl yn gallu bod yn y rhai anwylaf.
Mae'r llyfr yma hefyd ar gael yn Saesneg.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Ysgol Arswyd
gan Catrin Angharad, darluniau gan Sian Angharad
5 i 9 years
-
Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd
gan Gail Sequeira, darluniau gan Valeriane Leblond
5 i 9 years
-
Fy Bindi
gan Gita Varadarajan, darluniau gan Archana Sreenivasan
5 i 9 years
-
Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: llyfrau o Gymru
Rhai o'n hoff lyfrau a gyhoeddwyd yn Gymraeg blwyddyn eleni.