English Cymraeg

Red Sky in the Morning, Poet's Warning

gan Alex Wharton, darluniau gan Ian Morris

Oedran diddordeb: 9 i 11

Cyhoeddwr Firefly, 2025

  • Adventure
  • Funny
  • Poetry and rhyme

Am y llyfr hwn

Mae’r llyfr tenau hwn o farddoniaeth yn cynnwys detholiad o gerddi llawn dychymyg am y byd o’n cwmpas, y mae rhai’n tueddu tuag at ochr dywyllach bywyd. Dyma’r gydgyfrol i Red Sky at Night, Poet’s Delight, sy’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cynnig yr un faint o ysbrydoliaeth am hyfrydwch y byd. 

Mae rhai cerddi yn ysgogi synnwyr cryf o le, fel 'From the Folly', sy’n disgrifio’r golygfeydd panoramig o dŵr unig yn uchel ar fryn. 

Mae eraill yn teimlo’n fwy drwgargoelus; mae 'Wild Boys' yn sôn am blant coll yn rhedeg, yn hela ac yn cuddio yn y goedwig dywyll, lawn cysgodion, bob amser yn gwylio. Mae amrywiaeth o greaduriaid yn gwneud ymddangosiad, gan gynnwys hwyaden yn mwynhau ei diwrnod olaf, pryf cop amheus o fawr sy’n byw yn y cwt, a draig sy’n seren roc ag angerdd at gerddoriaeth.  

Wedi’u cyfansoddi gan Alex Wharton, Children's Laureate Wales, mae llawer o’r cerddi wedi’u lleoli yn ei dref enedigol, Pont-y-pŵl, a’r cyrion. Mae nodiadau ychwanegol ar droed nifer o’r cerddi yn rhoi’r cyd-destun gwybodaeth gefndirol, gan gynnwys yr ysbrydoliaeth y tu ôl iddynt. 

Mae’r lluniau du a gwyn sydd i’w gweld drwy’r llyfr yn llawn egni, steil a hiwmor, gan helpu i ddod â’r testun yn fyw. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn