English Cymraeg

Gwen ac Arianrhod

gan Lleucu Gwenllian

Oedran diddordeb: 9 i 12
Oedran darllen: 8+

Cyhoeddwr Gwasg Carreg Gwalch, 2025

  • Adventure
  • Coming-of-age
  • Graphic novels
  • Diversity and inclusion

Am y llyfr hwn

Mae Gwen a’i theulu yn symud o Gaerdydd i Griccieth ac er mwyn gwneud ffrindiau mae ei mam yn awgrymu ei bod hi’n ymuno gyda’r clwb nofio lleol. I ddechrau, mae pethau’n argoeli’n dda gyda Gwen yn mwynhau bod yn ôl yn y pwll ond yn fuan iawn mae pethau’n newid wrth i atgofion o farwolaeth ei ffrind gorau, Non, ei llorio hi. O ganlyniad, dydy Gwen, a fu’n bencampwr nofio yn ei hen glwb, ddim hyd yn oed yn ddigon cyflym i gael lle ar y tîm. Ar ben pob dim, mae tair o ferched lleol wedi dechrau bod yn gas iddi. Mae Gwen yn teimlo’n unig a thrist yn ei chartref newydd. Yr unig beth sy’n rhoi unrhyw gysur iddi i’w crwydro ar hyd y pyllau trai ger y môr. Yn fan hyn mae hi’n cyfarfod ag Arianrhod y fôr-forwyn a’r ffrind newydd bydd yn newid byd Gwen am y gorau. Mae Arianrhod yn gwahodd Gwen i ymweld â’i chartref o dan y dôn ac yma, ym mherfeddion y môr, mae Gwen yn ail-ddarganfod ei hunanhyder a’i chryfder. Yn y pendraw, pan mae Gwen yn dychwelyd i’r tir ac i’r pwll nofio mae’r bencampwraig ynddi hefyd yn ôl ac mae hi’n ennill ei lle yn y tîm nofio. Dyma nofel graffeg sydd yn llwyddo i archwilio amrywiaeth o emosiynau cymhleth fel colled, unigrwydd ac hunan-ddarganfyddiad trwy gyfrwng darluniau trawiadol sydd yn ennyn emosiynau.

Cyhoeddwyd y llyfr yma yn Gymraeg.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn