Unfairies
gan Huw Aaron
Oedran diddordeb: 7 i 12
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Puffin, 2025
Am y llyfr hwn
Anghofiwch bopeth roeddech chi’n gwybod am dylwyth teg. Yn hytrach na chreaduriaid hudol sydd yn rhoi dymuniadau ac yn hedfan yn hardd o le i le, y gwirionedd yw bod tylwyth teg mor hudol â chwilod a nhw yw rhai o’r creaduriaid mwyaf treisgar, erchyll a dauwynebog y cewch chi’r anffawd i gyfarfod erioed!
Yng nghaer tylwyth teg Oakhold, mewn gwlad beryglus a elwir Yr Ardd, rydyn ni’n cyfarfod ac arwr ein stori, y tylwyth teg mwyaf trawiadol, profoclyd, chwilfrydig, anaddas a diamynedd ohonyn nhw i gyd, Pip.
Pan mae cyflenwad bwyd Oakhold yn llwydo, mae Pip yn ffeindio ei hun yng nghanol chwildro o gynllwynio gwleidyddol cyn yr etholiadau tylwyth teg. Ynghyd â’i anifail anwes midge (o’r enw Midge), clerc sydd yn caru rheolau, mae ein ‘arwr’ Pip yn dod o hyd i’w hun mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd peryglus ond doniol – tra’n brysur yn sgwrsio i bawb gyda’i londer a’i amarch arferol.
Mae Pip yn gymeriad hoffus, doniol sydd yn wynebu pob sefyllfa gyda chwilfrydedd a chwarëusrwydd, mae’n drysu a gwylltio hyd yn oed y dihirod mwyaf drwg (Mae’r deialog rhwng y cymeriadau yn wirioneddol ddoniol!).
Mae arddull darluniau trawiadol a bywiog Huw Aaron yn asio’n berffaith gyda’r hiwmor yn y llyfr ac mae llwyth o fanylion i chwilio amdanynt, mapiau i bori drostynt a golygfeydd llawn antur i fwynhau.
Dewis perffaith ar gyfer rhai sydd yn hoffi Bunny vs Monkey a nofelau graffig eraill llawn egni.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Gwen ac Arianrhod
9 i 14 years
-
Megs
5 i 9 years
-
Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?
5 i 9 years
-
Ni a Nhw
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: llyfrau o Gymru
Rhai o'n hoff lyfrau a gyhoeddwyd yn Gymraeg blwyddyn eleni.