English Cymraeg

Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen

gan Siôn Tomos Owen

Oedran diddordeb: 7 i 11
Oedran darllen: 8+

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2026

  • Adventure
  • Fantasy
  • Funny

Am y llyfr hwn

O ganlyniad i brofiad gwael gyda modryb gas pan oedd yn iau, mae Gerwyn yn gwrthod darllen unrhyw beth! Mae e’n ddigon clyfar ond mae’n gwrthod darllen. Er bod peidio darllen yn achosi problemau di-ri iddo mewn bywyd pob dydd mae’n rhy ystyfnig i newid ei feddwl. Ond yn ystod gwyliau teulu, mae ymweliad â siop anarferol yn arwain Gerwyn ar antur fythgofiadwy sydd yn gorfodi iddo ail-feddwl ei deimladau am ddarllen. Mae’n rhaid iddo oresgyn heriau anarferol fel mynyddoedd sy’n siarad, hwyaid enfawr sy’n hedfan, pŵlwod a sombis. Ond er iddo lwyddo goroesi'r holl broblemau hyn, ac er iddo gael help gan ffrindiau newydd mae’n dod o hyd iddynt ar ei daith, mae Gerwyn dal yn gwrthod darllen ac felly dal yn methu cyrraedd adref. Daw’n amlwg er mwyn cyrraedd adref mae’n rhaid i Gerwyn deall gwir bwysigrwydd straeon. Yn y pendraw, pan ddaw i dderbyn hwn mae’n gallu ail-gysylltu gyda darllen a dychwelyd adref. Dyma lyfr llawn hwyl, gyda chymeriadau hudol, llawn chwarae ar eiriau a lluniau bachog bydd yn ddewis da i unrhyw blentyn sydd â dim chwant darllen.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn