English Cymraeg

Arwr Arfro: Dewis Dy Dynged

gan Llinos Dafydd, darluniau gan Amelie Amelie Ahern-Williams

Oedran diddordeb: 7 i 11
Oedran darllen: 9+

Cyhoeddwr Rily Publications, 2026

  • Adventure
  • Fantasy
  • Interactive
  • Myths and legends

Am y llyfr hwn

Mae byd hudol Arfro mewn perygl ac mae Arianrhod yn rhoi’r cyfrifoldeb ar y darllenydd i achub a'r dydd. Dyma lyfr ychydig yn wahanol i’r arfer sydd yn mynnu mwy o ryngweithio na stori arferol. Ar ddiwedd pob pennod mae’r awdur yn rhoi’r dewis i’r darllenydd ar ba drywydd i fynd a’r stori ac wedyn mae cyfarwyddiadau yn dweud at ba bennod i fynd nesaf. Felly, yn dibynnu ar ei ddewisiadau mae’r darllenydd wedi gwneud, a gyda help ffrindiau hudol fel Gwydion a Huwcyn y dylluan, mae’r darllenydd yn gorfod goresgyn amrywiaeth o heriau fel cŵn Annwn a choblynnod cas ,er mwyn dod o hyd i’r allwedd sanctaidd ac achub Arfro. Mae’r llyfr wedi ysgrifennu yn grefftus a wir yn rhoi’r argraff i’r darllenydd ei bod yn yng nghanol antur. Gyda lluniau gafaelgar trwyddi draw – dyma lyfr sydd yn llawn antur a chyffro bydd darllenwyr yn siŵr o fwynhau.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn