Rex: Dinosaur in Disguise
gan Elys Dolan
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 6 i 8
Cyhoeddwr Walker Books, 2022
Am y llyfr hwn
Am filoedd o flynyddoedd, mae Rex y deinosor wedi’i rewi mewn bloc o rew. Ond, pan mae’r rhew yn meiriol, mae Rex yn darganfod y byd modern, sydd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth ers y Cyfnod Cretasaidd.
Yn ffodus, mae Bigfoot yr ieti yn gweld Rex, ac mae’n ei helpu i newid ei wedd. Fodd bynnag, mae natur ddireidus Rex yn golygu ei bod hi’n anodd iddo aros yn ddisylw ac mae’n denu sylw cymydog Bigfoot, Sandra sy’n naw oed ac sy’n benderfynol o ddarganfod pwy yn union ydy Rex.
Mae llawer o negeseuon pwysig wedi’u gwau i mewn i’r stori ddoniol iawn hon, fel gwneud ffrindiau newydd, delio â bwlis ac, yn anad dim, pwysigrwydd bod yn chi eich hun.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen
gan Siôn Tomos Owen
7 i 11 years
-
Dirgelwch y Defaid
gan Endaf Griffiths, darluniau gan James Cottell
5 i 9 years
-
Beth yw'r Amser, Bwci Bo? / What Time Is It, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
2 i 7 years
-
Arwr Arfro: Dewis Dy Dynged
gan Llinos Dafydd, darluniau gan Amelie Amelie Ahern-Williams
7 i 11 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2023: 8 i 9
Y llyfrau gorau o 2023 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed.