Mira a’r Goeden
gan Luned Aaron, darluniau gan James Cottell
Oedran diddordeb: 8 i 9
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2024
Am y llyfr hwn
Dyma ddewis perffaith ar gyfer darllenwr sydd yn mentro i lyfrau pennod am y tro cyntaf. Mae'r iaith, maint y penodau a'r lluniau cartŵn sydd yn ymddangos yn gyson drwy'r llyfr yn golygu y bydd y stori hon yn siŵr o fachu diddordeb.
Dyma’r drydedd yn y gyfres o lyfrau Mira, a’r tro hwn mae’r prif gymeriad yn mentro ar drip gwersylla am y tro cyntaf gyda ffrindiau’r teulu nad yw hi wedi eu gweld ers oedd yn fabi. Dydy pethau ddim yn argoeli’n dda wrth i bryderon Mira am golli parti ei ffrind a gwneud pethau newydd dduo’i hwyliau. Wedi cyrraedd, daw mwy o heriau wrth iddi drio datblygu perthnasau â phlant eraill sef Rory (sy’n anabl) ac Imelda ei chwaer. Ond trwy gymorth ei theulu a’i ffrindiau newydd daw Mira i adnabod eraill, a hi ei hun, yn llawer gwell. Dyma lyfr a fydd, heb os, yn datblygu empathi ymhlith ei ddarllenwyr ifanc.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Rex: Dinosaur in Disguise
5 i 14 years
-
Gwen ac Arianrhod
9 i 14 years
-
Megs
5 i 9 years
-
Unfairies
5 i 11 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2024-25: ar gyfer plant 8 i 9 oed
Y llyfrau gorau o 2024-25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed