book cover
English Cymraeg

Camau Corsiog

illustrated by James Cottell

Interest age: 8 to 9
Reading age: 8+

Published by Atebol Cyfyngedig, 2022

  • Short stories

About this book

Dyma lyfr fydd yn apelio at blant sydd yn darllen llyfrau pennod am y tro cyntaf - yn enwedig y rhai sydd yn hoffi byd natur!

Mae rhagair gan Iolo Williams a map apelgar o fewn y tudalennau cyntaf yn hoelio diddordeb yn syth. Mae'r llyfr yn gyfres o straeon byrion wedi'u lleoli o gwmpas 'Y Gors'. Mae pob stori yn cyflwyno'r darllenydd i gymeriadau newydd o fyd natur. Rydyn ni'n dilyn eu helyntion wrth iddyn nhw ddysgu gwersi bywyd wrth fynd ati i gyd-fyw yn y Gors.

Mae'n llawn geirfa gyfoethog o fyd natur, ac yn ogystal â hynny, mae neges ym mhob un o'r straeon a fydd yn taro deuddeg gyda'r darllenwyr ifanc.

Share this page Twitter Facebook LinkedIn