English Cymraeg

Garddwr Y Gwyll / The Night Gardener

gan The Fan Brothers
Adapted by Delyth George

Oedran diddordeb: 7 i 9
Oedran darllen: 7 i 9

Cyhoeddwr Rily Publications, 2016

Mae’r llyfr hwn ar gael hefyd mewn English

Am y llyfr hwn

Mae William yn edrych drwy ei ffenest mewn cartref plant amddifad ar Grimloch Lane un diwrnod a dyma fe’n gweld rhyw gythrwfl y tu allan. Pan mae’n mynd i lawr i’r stryd, mae amgylchedd sepia’r dref wedi’i drawsnewid gan dylluan docwaith, a gerfiwyd gan rywun dirgel.

Cyn hir, mae’r coed yn troi’n anifeiliaid lle bynnag yr aiff William – cathod, cwningod, a draig hyd yn oed, ac mae stryd ddiflas Grimloch Lane yn trawsnewid i fod yn lle hudolus.

Wedyn, un nos, mae William yn dod o hyd i Arddwr y Gwyll, sy’n dysgu iddo sut i wneud Grimloch Lane yn hardd am byth.

Dyma stori dwymgalon wedi’i darlunio’n hardd am dref drist a phlentyn amddifad unig wrth i’r naill a’r llall gael bywyd newydd o ganlyniad i garedigrwydd a sgiliau Garddwr y Gwyll. Prin yw’r testun, gan adael effaith.

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn