A Home for Spark the Dragon
gan Michael Sheen and Jess Webb, darluniau gan Sarah Massini
Oedran diddordeb: 4 i 5
Oedran darllen: 3+
Cyhoeddwr Puffin, 2025
Am y llyfr hwn
Pan fydd storm yn dinistrio tŷ pen coeden Spark y ddraig, does ganddo ddim unlle i fyw.
Mae Kind Bear yn cynnig lle yn ei ogof, ond mae braidd yn dywyll a llaith i ddraig. Mae Busy Beaver yn cynnig yr estyniad diweddaraf i’w chaban i Spark, ond maen nhw angen gorffen ei adeiladu ac mae braidd yn swnllyd a phrysur. Spark druan – a wnaiff e fyth ddod o hyd i gartref newydd?
Wedi’i ysgrifennu gan yr actor Michael Sheen a’r awdur Jess Webb i hysbysu plant am y problemau yn ymwneud â digartrefedd, mae hon yn stori swynol â lluniau bendigedig.
Mae’r gwahanol anifeiliaid cyfeillgar yn dangos caredigrwydd a haelioni, ond hefyd yn derbyn bod gan Spark ei angenrheidiau ei hun ar gyfer teimlo’n gyfforddus. Gallai hwn sbarduno trafodaethau am wahanol fathau o gartrefi (i bobl ac anifeiliaid), neu gellid ei fwynhau’n syml fel stori am gyfeillgarwch.
Mae £1 o bob copi clawr caled a werthir yn mynd i’r elusen Shelter.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Diwrnod Cyntaf Wini
3 i 7 years
-
Cyfri Defaid
3 i 7 years
-
The Tour at School
2 i 7 years
-
The Biggest Dog in the Book
3 i 5 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: llyfrau o Gymru
Rhai o'n hoff lyfrau a gyhoeddwyd yn Gymraeg blwyddyn eleni.