The Tour at School: Because You're the New Kid!
gan Katie Clapham, darluniau gan Nadia Shireen
Oedran diddordeb: 3 i 6
Oedran darllen: 3+
Cyhoeddwr Walker Books, 2025
Am y llyfr hwn
Gall ymuno ag ysgol newydd fod yn frawychus; ceir cynifer o bobl a lleoedd i ddod i’w hadnabod. Un peth a all helpu yw bod â rhywun caredig a all ddangos i chi sut mae pethau’n gweithio. Wel, yn ffodus i chi, mae’r llyfr hwn yn eich addysgu sut i fod y tywysydd teithiau mwyaf eithriadol o frwdfrydig a difyr ERIOED!
Dilynwch fachgen wrth iddo gael taith wyllt o gwmpas ei ysgol newydd gan ddisgybl hyderus iawn. Gyda chymaint o wybodaeth bwysig i’w rhannu, nid yw’r tywysydd yn sylweddoli bod y bachgen newydd yn teimlo bod popeth yn mynd yn drech nag e. Mae’n myfyrio yn y pen draw efallai nad tywysydd sydd ei angen arno, dim ond ffrind.
Mae hwn yn llyfr lluniau eithriadol o addfwyn, doniol, a meddylgar. Mae’r portread o fywyd ysgol yn wych, gyda sŵn, busnes, gemau a hwyl anhrefnus, y cwbl wedi’i ddarlunio’n hyfryd i gyd-fynd ag egni ysgol gynradd.
Mae’r tywysydd yn wirioneddol ddoniol wrth iddo frasgamu o gwmpas yn tynnu sylw’r bachgen newydd sydd mewn braw at bob math o bethau, ac yn y pen draw mae’n dysgu gwers werthfawr am gyfeillgarwch ac empathi.
Llyfr lluniau rhyfeddol yn llawn chwerthin ac emosiwn, perffaith ar gyfer plant a allai fod yn symud ysgol neu’n pontio i flwyddyn newydd.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
What’s That Noise?
3 i 4 years
-
Big Bad Dragon Club
2 i 7 years
-
Supertaten
2 i 9 years
-
Deg Deinosor Bach / Ten Little Dinosaurs
2 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 4 i 5 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 4–5 oed