Supertaten
gan Sue Hendra and Paul Linnet
Adapted by Elin Meek
Oedran diddordeb: 3 i 6
Cyhoeddwr Dref Wen, 2014
Am y llyfr hwn
Mae arwr newydd yn y dre: Supertaten!
Mae’n nos yn yr archfarchnad a phob dim yn ddistaw ac yn llonydd. Ond arhoswch. Mae rhywbeth wedi dianc o’r rhewgell, rhywbeth sydd â chynllwyn drwg ar y gweill. Mae’r bysen fach ddrygionus eisiau codi reiat. A’r targed yw’r llysiau ffres.
Ond peidiwch â phoeni – mae Supertaten yma! All e ddatrys y troseddau ofnadwy yma ac achub y llysiau rhag tynged ofnadwy? Yn sicr, bydd yn rhaid iddo ddefnyddio ei holl archbwerau er mwyn trechu’r gelyn bach gwyrdd.
Dyma stori ddigri gyda chymeriadau gwirioneddol wych. Bydd pob plentyn wrth ei fodd â Supertaten a’i gyfeillion llysieuog.
Mae yma ddarluniau hwyliog, bywiog a thestun syml ond clyfar y bydd oedolion a’r rhai bach fel ei gilydd yn eu mwynhau. Ond dyma rybudd: bydd galw arnoch i ddarllen y stori dro ar ôl tro. Ar ôl tro.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Rhewyn a’r Côrachod
gan Catrin Angharad Jones, darluniau gan Sian Angharad
4 i 7 years
-
Nos Da, Jac Do
gan Casia Wiliam, darluniau gan David Gregory
3 i 5 years
-
Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen
gan Siôn Tomos Owen
7 i 11 years
-
Dirgelwch y Defaid
gan Endaf Griffiths, darluniau gan James Cottell
5 i 9 years