What’s That Noise?
gan Charlie Higson, darluniau gan Nadia Shireen
Oedran diddordeb: 3 i 7
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Simon & Schuster, 2025
Am y llyfr hwn
Mae gan y llanc ifanc Bob ddigonedd o hwyl swnllyd yn ei focs: curo traed fel T-Rex, brymio ei gar, a bwyta grawnfwyd crensiog sy’n mynd 'pop'.
A bob tro y bydd rhywun sy’n mynd heibio yn stopio ac yn meddwl ei fod wedi clywed rhywbeth… mae Bob yn cadw’n gwbl ddistaw tan iddyn nhw symud ymlaen.
Wrth i’r llyfr barhau, mae Bob yn cael mwy a mwy o bethau eithriadol o ddifyr ac UCHEL i mewn i’w focs - jeli, ysbryd, a mwnci sy’n iodlan i enwi dim ond rhai!
Mae’r llyfr lluniau hyfryd o ddwl hwn yn dathlu pleserau’r dychymyg, iaith a sŵn. Mae’n wych i’w ddarllen ar lafar gyda’i destun rhythmig a’i wiriondeb cynyddol, a bydd plant eisiau i rywun ei ddarllen iddyn nhw drosodd a throsodd a throsodd (yn enwedig y darn â’r mwnci sy’n iodlan!)
Mae’r lluniau hefyd yn dal yr hwyl syml ond diderfyn y gellir ei gael gyda bocs cardfwrdd a dychymyg byw. Mae gwaith celf Nadia Shireen yn ddymunol o drawiadol ac eglur ar y dudalen ond yn llwyddo i gyfleu llawer iawn o bersonoliaeth a hiwmor.
Llyfr hyfryd i’w ddarllen gyda phlant i gael hwyl gydag iaith ac ysbrydoli chwarae dychmygus.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Oh No, Flo!
gan Catherine Cawthorne, darluniau gan Mike Byrne
3 i 4 years
-
The Tour at School
gan Katie Clapham, darluniau gan Nadia Shireen
2 i 7 years
-
The Biggest Dog in the Book
gan Ben Lerwill, darluniau gan Mark Chambers
3 i 5 years
-
Ant Party
gan Ross Montgomery, darluniau gan Sarah Warburton
3 i 7 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 4 i 5 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 4–5 oed