Quill and the Last Generation
gan C M Lewis, darluniau gan Maria Vidal
Oedran diddordeb: 9 i 14
Oedran darllen: 9+
Cyhoeddwr Macmillan Children's Books, 2025
Am y llyfr hwn
Mae hi wedi bod yn aeaf diddiwedd ers 12 mlynedd. Mae bwyd yn mynd yn brinach, mae bywyd yn mynd yn anoddach a does dim plant wedi’u geni yn ystod y cyfnod hwnnw. A does neb yn gwybod pam.
Yna mae Quill, y plentyn olaf i gael ei eni, yn cael ymweliad gan ferch sy’n ymddangos ar ffurf cigfran ac mae popeth yn newid. Mae Quill yn ei dilyn i’r isfyd, gan ymgolli mewn teyrnas o hud, dreigiau ac eneidiau coll lle does dim cydbwysedd rhwng golau a thywyllwch mwyach a lle mae goleuni’r byd mewn perygl o gael ei ddiffodd am byth.
Mae’r bobl yno yn meddwl mai Quill yw’r arwr a all eu hachub. Ond a all e’ oresgyn yr amheuaeth mae’n ei deimlo ac ymateb i’r her?
Gan dynnu ar chwedlau Celtaidd a straeon Cymraeg, mae anturiaethau Quill yn gymysgedd gwych o elfennau dynol a goruwchnaturiol sy’n edrych ar y da a’r drwg, y gaeaf a’r haf sy’n dod â sefydlogrwydd i’r byd.
Mae’r stori wych hon am fywyd, marwolaeth, tynged eneidiau dynol a’r dewrder i gofleidio eich tynged, hyd yn oed os yw’n eich dychryn, yn llawn cymeriadau cofiadwy. Mae’r plot yn gymhleth ond yn gydlynol gyda rhai golygfeydd dramatig o frwydrau a’r addewid o anturiaethau pellach i ddod.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
The Boy to Beat the Gods
gan Ashley Thorpe
9 i 14 years
-
Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen
gan Siôn Tomos Owen
7 i 11 years
-
Y Cae Ras
gan Manon Steffan Ros
9 i 11 years
-
Arwr Arfro: Dewis Dy Dynged
gan Llinos Dafydd, darluniau gan Amelie Ahern-Williams
7 i 11 years