English Cymraeg

Fresh

gan Rhiannon Oliver, darluniau gan Chris Riddell

Oedran diddordeb: 7 i 14
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Firefly Press

  • Poetry and rhyme

Am y llyfr hwn

Mae Fresh yn gasgliad cynnes, byrlymus o farddoniaeth i blant oedran cynradd. Mae’n archwilio themâu dechreuadau newydd, boed hynny trwy’r tymhorau ym myd natur, neu rywbeth dyfnach, fel delio â cholled neu newid cyfeillgarwch. Trwy’r cerddi hyn, sy’n chwilfrydig, yn ddoniol, yn feddylgar ac weithiau’n heriol, mae plant yn cael eu hannog i edrych o’r newydd ar y byd o’u cwmpas, a’r byd y tu mewn iddyn nhw eu hunain hefyd.  

Mae cerddi Oliver yn cael eu hysbrydoli gan bob math o bethau, o rywbeth mor fach â chwain ar gath, i rywbeth mor fawr â phryder sy’n aros yn ein meddyliau. Mae pob cerdd yn rhoi ymdeimlad o syndod ac mae yna droeon clyfar ar ffurf a chynllun y cerddi sy’n eu cadw, wel, yn ffres!  Mae cerddi am heriau cyfeillgarwch, tristwch, colled, pryder, a chael eich gadael allan yn cael eu trin â chyffyrddiad ysgafn, gan gynnig cysur a chydnabyddiaeth heb iddyn nhw fod yn nawddoglyd. 

Mae darluniau du a gwyn Chris Riddell, yn ei arddull glasurol, yn hyfryd o organig ac yn dod â’r farddoniaeth yn fyw. Maen nhw’n llawn symudiad, cymeriad, a manylion bach sy’n gwneud i’r darllenydd fod eisiau aros ar y dudalen.   

Mae hwn yn llyfr ardderchog i gyflwyno pŵer ysgafn barddoniaeth neu fel ysbrydoliaeth ar gyfer archwilio barddoniaeth yn yr ysgol gynradd a thu hwnt.   

Am yr darlunydd

Mae Chris Riddell yn ddarlunydd arobryn ac yn gartwnydd gwleidyddol clodwiw. Ar hyn o bryd ef yw’r unig artist i ennill Medal Kate Greenaway dair gwaith, yn fwyaf diweddar am ei ddarluniau yn llyfr Neil Gaiman, The Sleeper and the Spindle. Cafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar fel llysgennad BookTrust. 

Mae Chris Riddell wedi darlunio gwaith llawer o awduron plant enwog, gan gynnwys pump o lyfrau Neil Gaiman a The Tales of Beedle the Bard gan J.K. Rowling. Ef yw awdur y cyfresi poblogaidd Goth Girl ac Ottoline a chyd-grëwr cyfres boblogaidd arall, The Edge Chronicles

Ef oedd Bardd Llawryfog Plant Waterstones rhwng 2015 a 2017. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn