English Cymraeg

Dirgelwch y Defaid

gan Endaf Griffiths, darluniau gan James Cottell

Oedran diddordeb: 5 i 9
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2026

  • Adventure
  • Chapter books
  • Mystery

Am y llyfr hwn

Mae Hambons yn grŵp o dri chyfaill sydd yn byw yng nghefn gwlad. Ianto, sydd wastad  yn breddwydio, a’i ben yn y cymylau, Efa, sydd yn gallu meddwl am ddim byd ond defaid a Llew sydd yn hoffi popeth yn dwt ac yn daclus. Er bod y 3 yn hollol wahanol maen nhw’n ffrindiau pennaf ac yn ymfalchïo yn y ffaith bod gweddill y plant yn cyfeirio atyn nhw fel Hambons- hyd yn oed os mai dim ond Efa sydd yn byw ar fferm! 

Pan mae holl ddefaid ffermwyr yr ardal yn dechrau diflannu mae Efa, yn enwedig, yn awyddus iawn i ddarganfod ateb i’r broblem ac mae hi’n penderfynu mai’r Hambons yw’r unig rai i ddatrys y dirgelwch. Er byddai’n well gan Llew aros adref, mae’r tri yn mentro allan i’r nos i ddal y dihiryn. Mae eu gwaith ditectif cyfrwys a llwybr o pw defaid yn arwain nhw tuag at yr ateb annisgwyl i’r dirgelwch. Dyma lyfr gwych ar gyfer plant sy’n mentro i fyd llyfr penodau. Bydd y stori ddirgel a’r lluniau lliwgar yn siŵr o hoelio sylw'r darllenydd ifanc.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn