English Cymraeg

The Moonlight Mystery Agency: The Birthday Cake Thief

gan Vashti Hardy, darluniau gan Agnes Saccani

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Barrington Stoke, 2025

  • Adventure
  • Chapter books
  • Mystery
  • Dyslexia

Am y llyfr hwn

Mae Hana wedi bod eisiau anifail anwes erioed, ond mae gan ei brawd bach alergedd i flew. Pan fo cath hud sy’n siarad yn ei gwahodd i ymuno â’r Moonlight Mystery Agency, mae’n sylweddoli bod ffrind sy’n gath ac yn dditectif hyd yn oed yn well nag anifail anwes! 

Yn fuan, mae Ace a hithau yn hedfan i wlad Moonlight i ddatrys dirgelwch cacen ben-blwydd goll Spark yr ungorn bionig. Dyluniwyd y stori hyfryd hon yn arbennig â darllenwyr dyslecsig mewn golwg, sy’n golygu llawer o le o gwmpas y testun a thudalennau ychydig yn hufennog. Mae’r lluniau lliw gan Agnes Saccani yn ddel iawn, gan wneud i ungorn blin wedi’i wneud o fetel edrych yn annwyl hyd yn oed. 

Ar y cloriau mewnol, yn yr un modd a llawer o lyfrau Little Gems gan Barrington Stoke, ceir posau gweledol i’w mwynhau – gweld y gwahaniaeth a drysfa. Ceir lefel arall i’r stori hefyd, wrth i anturiaethau Hana wneud iddi ystyried sut mae’n trin ei brawd. Yn y cyfamser, mae’n drawiadol mai Dad yw’r unig riant sy’n cael ei grybwyll neu ei weld. Mae hon yn stori hud gwireddu breuddwyd hyfryd, sy’n berffaith i ddarllenwyr sy’n dechrau darllen ar eu pennau eu hunain. Ond byddai hefyd yn hyfryd i’w ddarllen gyda’ch gilydd fel oedolyn a phlentyn.  

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn