English Cymraeg

The Secret World of Seahorses: Protecting the Planet

gan Nicola Davies, darluniau gan Lou Baker-Smith

Oedran diddordeb: 5 i 7
Oedran darllen: 5+

Cyhoeddwr Walker Books, 2025

  • Non-fiction
  • Early Learning

Am y llyfr hwn

Mae’n anodd gweld ceffyl môr. Maen nhw’n symud o gwmpas ger gwely’r môr ac yn defnyddio eu cynffonnau cyrliog i lynu wrth greigiau a gwymon. Mae rhai ohonyn nhw mor fach â diwedd eich bys bach.  

Ond mae rhywbeth hudolus, chwedlonol bron, am y creaduriaid swil hyn sy’n eu gwneud nhw’n ddiddorol. Maen nhw’n dal ein dychymyg gyda’u ffurf unigryw, osgeiddig sydd mor wahanol i anifeiliaid eraill y môr.  

Yn y llyfr hwn, mae Nicola Davies a Lou Baker-Smith yn rhoi cyfle i ddarllenwyr arsylwi ar geffylau môr yn agos a deall mwy am yr heriau sy’n eu hwynebu.   

Gan ddarllen bron fel stori, mae’r llyfr lluniau ffeithiol hwn yn addas iawn i blant iau. Mae’r darluniau’n ymdrochol ac yn teimlo fel golygfeydd go iawn o dan y dŵr – gan daro cydbwysedd braf rhwng cywirdeb anatomegol a hud llyfr lluniau.  

Mae testun Nicola Davies yn cyflwyno bioleg sy’n briodol i oedran am geffylau môr ac yna’n mynd ymlaen i ddisgrifio rhai o’r bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu gan bobl a newid amgylcheddol.  

Fodd bynnag, mae’r llyfr yn gorffen ar nodyn optimistaidd wrth i ddarllenwyr ddysgu am brosiectau cadwraeth ledled y byd a sut all unigolion gyfrannu at amddiffyn y creaduriaid anhygoel hyn.  

Am yr awdur

Mae Nicola Davies wedi ysgrifennu mwy na 50 o lyfrau i blant: ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn mwy na 10 o ieithoedd gwahanol ac mae hi wedi ennill gwobrau mawr yn y DU, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Eidal a’r Almaen. 

Hyfforddodd Nicola fel sŵolegydd, gan ennill gradd mewn Gwyddorau Naturiol o Goleg y Brenin, Caergrawnt. Treuliodd rai blynyddoedd fel biolegydd maes ac astudiodd forfilod cefngrwm a gwyn ac ystlumod, cyn ymuno ag Uned Hanes Byd Natur y BBC fel ymchwilydd ac yna fel cyflwynydd. 

Ar ôl dechrau ei gyrfa ysgrifennu, daeth Nicola yn uwch ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa, ond mae hi wedi bod yn ysgrifennu’n llawn amser ers dros ddegawd. Erbyn hyn, mae hi’n cynnal gweithdai rheolaidd i blant ac oedolion i’w helpu i ddod o hyd i’w lleisiau fel awduron ac eiriolwyr dros natur. Yn 2017, hi enillodd gwobr gyntaf y Gymdeithas Llyfrgelloedd Ysgolion am Gyfraniad Eithriadol i Lyfrau Ffeithiol i Blant, ac yn 2018 cafodd pedwar o’i llyfrau eu cynnwys ar restr hir Gwobr Greenaway. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn