English Cymraeg

10 Fascinating Stories from Welsh History

gan Siân Lewis and Charlotte Williams, darluniau gan Kyle Legall

Oedran diddordeb: 7 i 11
Oedran darllen: 9+

Cyhoeddwr Dragon Press, 2026

  • Historical
  • Non-fiction

Am y llyfr hwn

Mae’r llyfr cynhwysol yma yn uwcholeuo rhai o’r uchafbwyntiau  a phobl ddylanwadol sydd wedi bod yn rhan o hanes Cymru. O’r Rhufeiniaid hyd at Hywel Dda a’i gyfreithiau, hyd at Lucy Thomas perchennog y pwll glo i John Charles a thîm pêl-droed Cymru, mae’r llyfr yma’n cynnig blas o hanes bydd at ddant pob darllenydd ifanc. Mae gosodiad y llyfr yn golygu bod y wahanol bynciau yn cael eu cyflwyno trwy naratif sydd yn y person cyntaf fel Harri Tudur a Patti Flynn. I roi darlun mwy clir o’r amser a phwysigrwydd y person o dan sylw, yn dilyn hwn mae tudalen o ffeithiau sydd yn ychwanegu at ddealltwriaeth y darllenydd o’r cyfnod. Mae’r ffeithiau yma, sydd wedi cael eu dewis yn ofalus, yn gwneud y perthynas rhwng y gorffennol a’r presennol yn glir i’r darllenydd. Mae’r gosodiad atyniadol a’r darluniau trawiadol ynghyd ar adran yng nghefn y llyfr lle cheir trafodaeth am beth yw hanes  i gyd yn cyfrannu at wneud hwn yn ddewis gwych ar gyfer plant. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn