English Cymraeg

Y Cae Ras

gan Manon Steffan Ros

Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 9+

Cyhoeddwr Lolfa, 2026

  • Coming-of-age
  • ADHD

Am y llyfr hwn

Mae clwb pêl-droed Wrecsam yn bopeth i efeilliaid Danny a Mali. Er bod bywyd ysgol yn wahanol iawn i’r ddau, gyda Danny yn y serennu yn y dosbarth tra bod ei chwaer yn ffeindio hi’n llawer anoddach gan fod canolbwyntio ac eistedd yn llonydd yn heriol iawn iddi, mae bywyd adre yn wahanol. Yno, mae’r efeilliaid yn treulio pob eiliad gyda’i gilydd yn chwarae pêl-droed neu’n clustfeinio ar gemau o’r Cae Ras, sydd yn cefnu ar stryd lle mae’r efeilliaid yn byw. Ond daw newid, pan mae mam yn cyflwyno ei chariad newydd Andrew i’w bywydau. Mae ei gredoau traddodiadol am sut dylai merched ymddwyn yn treiddio i galon y teulu. Gyda Mam a Danny wedi dallu gan anrhegion a seboni Andrew, dydyn nhw ddim yn sylweddoli bod Mali a’i angerdd am bêl-droed wedi newid pwy ydy hi er mwyn trio ffitio i mewn. Gan ei bod hi’n teimlo mor unig mae Mali yn rhedeg i ffwrdd. Yn ystod ei theithiau mae hi’n darganfod gwirioneddau annisgwyl gan gynnwys rhai amdani hi ei hun. Yn y pendraw, mae ei darganfyddiadau yn ei galluogi hi ymfalchïo yn bod yn hi ei hun, ac yn gadael iddi hi ddychwelyd i’r un lle sydd wastad wedi teimlo fel adref iddi sef - Y Cae Ras. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn