English Cymraeg

Dylan’s Park

by Dylan Thomas; edited by Helen Docherty

Oedran diddordeb: 4 i 7

Cyhoeddwr Graffeg Books, 2026

  • Picture books
  • Diaries and journals
  • Historical

Am y llyfr hwn

Mae’r Dylan Thomas ifanc wrth ei fodd ag Abertawe, lle mae’n byw – “tref glan môr” – lle mae yna barc, yn llawn arswydau a thrysorau, lle mae ef a’i ffrindiau yn chwarae. Mae cymdeithasau cyfrinachol ym myd y parc y gall y plant berthyn iddyn nhw, y mae pob un ohonyn nhw’n gofyn am gyflawni campau peryglus o ddygnwch neu feiddgarwch (sarhau postmyn o frig coeden; canu’r holl glychau drws mewn un stryd a rhedeg i ffwrdd; nofio gydag elyrch dig). Mae pob dydd yn ymddangos fel antur, yn llawn dreigiau a ranshis gwartheg, cabanau môr-ladron a thafarndai lladron pen ffordd.  

Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r bachgen yn dychwelyd fel dyn ifanc ac yn gofyn i geidwad y parc a yw’n cofio’r bachgen a arferai fod. Mae ceidwad y parc yn myfyrio – roedd y bachgen ifanc hwnnw wastad yn hapus yn ei dyb e’ – a gallwn ni weld o atgofion Dylan bod hynny’n wir.  

Mae Dylan Thomas yn un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru. Pan oedd yn fachgen, treuliodd oriau hapus yn chwarae ym Mharc Cwmdoncyn yn Abertawe, ac ysgrifennodd am hyn mewn darllediad radio. Mae’r llyfr lluniau hwn wedi’i ysbrydoli gan ran o’r darllediad hwnnw yn ogystal â thestun o rai o weithiau eraill Dylan Thomas. Wedi’i ddarlunio gan Thomas Docherty, dyma atgof hyfryd a hiraethus o blentyndod oes a fu, a’r ansawdd chwareus a diniwed a welir o hyd. 

Am yr awdur

Mae Helen yn awdur plant sy’n byw yn Abertawe. Mae ei llyfrau lluniau wedi’u cyfieithu i 27 o ieithoedd ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau cenedlaethol. Enillodd The Snatchabook Wobr Oldham Brilliant Book 2014 ac enillodd The Knight Who Wouldn’t Fight Wobr Bae Baglan 2017 – plant ysgol bleidleisio am y ddwy. Mae Helen yn aml yn cydweithio â’i gŵr, y darlunydd a’r awdur Thomas Docherty. The Screen Thief yw un o’r llyfrau eraill y mae’r ddau wedi gweithio arno gyda’i gilydd.   

Gweithiodd Helen am flynyddoedd lawer fel athrawes iaith cyn troi ei dawn gyda geiriau at ysgrifennu i blant. Mae hi’n byw yng Nghymru gyda Thomas, eu dwy ferch a chi bach. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn