English Cymraeg

Dysgu gyda Sali Mali Byd Natur

gan Casia Wiliam, darluniau gan Jacob Fell

Oedran diddordeb: 4 i 5

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2022

  • Picture books

Am y llyfr hwn

O dan arweiniad Sali Mali a Jac y Jwc, mae'r llyfr yn gwahodd y darllenydd i ymgyfarwyddo â byd natur, ac yn eu haddysgu amdano.

Apêl y llyfr yw'r ffordd mae'n defnyddio cymeriadau ffuglen cyfarwydd i drosglwyddo ffeithiau. Mae cyfuno'r ffuglen a'r ffaith yn golygu bod gwybodaeth allai fod yn ddiflas, yn llwyddo i ddal sylw. Ynghyd â'r ffeithiau am natur mae'r awdur yn rhannu enwau'r hyn maen nhw'n gweld yn ei dro e.e blodau a choed. Mae rhoi'r iaith yma i blant yn holl bwysig, yn enwedig os ydym am iddynt siarad am y byd o'u cwmpas a'i werthfawrogi.

Dyma destun bydd yn tanio diddordeb ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Y Dyniaethau, Iechyd a Lles ac Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn