English Cymraeg

Mi Wnes i Weld Mamoth! / I Did See a Mammoth!

gan Alex Willmore
Adapted by Casia Wiliam

Oedran diddordeb: 4 i 5

Cyhoeddwr Farshore, 2022

  • Funny
  • Picture books

Am y llyfr hwn

Dyma lyfr doniol a chwareus bydd yn hoelio diddordeb darllenwyr ifanc ac yn eu cyflwyno i'r mamoth gwlanog.

Pan mae criw o anturiaethwyr yn mynd i'r Antarctig mae pawb yn gyffrous i weld y pengwiniaid, heblaw am un bach sydd yn benderfynol o weld Mamoth.

Llwyddiant y llyfr yw chwalu'r syniad bod 'oedolion' yn gwybod pob dim, achos wrth i'r stori ddatblygu daw'n amlwg fod yna mamoth i'w weld yn yr Antarctig ond dim ond y prif gymeriad a'r darllenwr sydd yn gwybod hynny. Daw'r tro yn y gynffon wrth i'r oedolion holl wybodus orfod sylweddoli eu bod nhw'n anghywir.

Dyma destun bydd yn tanio gwaith ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd: Y Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Celfyddydau Mynegiannol.

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn