English Cymraeg

Ant Party

gan Ross Montgomery, darluniau gan Sarah Warburton

Oedran diddordeb: 3 i 7
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Walker Books, 2025

  • Funny
  • Picture books

Am y llyfr hwn

Mae Andy y morgrugyn eisiau cael parti ar gyfer ei ben-blwydd, dim ond parti bach gydag ambell i ffrind, rhywfaint o ddawnsio a dipiau blasus. Felly, pan fydd Andy yn gwahodd ei gymdogion, dylai hynny fod yn ddigonedd o westeion. Ond does gan y cymdogion ddim bwyd i ddod gyda nhw, felly maen nhw’n gwahodd y morgrug ffermio. Mae’r morgrug ffermio yn teimlo trueni dros y morgrug gweithio ac yn eu gwahodd nhw hefyd...  

Cyn hir, mae’r nythfa forgrug gyfan ar eu ffordd i barti Andy, a dim ond ychydig o ddipiau sydd ganddo - mae Andy yn gandryll! Yna, pan fydd gwestai nad oes croeso iddo yn ymddangos, mae’r morgrug yn dangos eu cryfder drwy weithio fel tîm i achub y dydd. Ac unwaith mae’r nythfa’n ddiogel, gall y parti go iawn gychwyn! 

Mae’r llyfr lluniau gwych hwn gan Ross Montgomery a Sarah Warburton yn gynnwrf o liw, cyfeillgarwch a hwyl morgrugaidd. Mae’r stori yn addfwyn ac yn adeiladu i uchafbwynt y bydd plant yn ei fwynhau, a cheir themâu braf o gyfeillgarwch a hyder i’w trafod. Mae lluniau Warburton wir yn disgleirio yma, a bydd darllenwyr wrth eu boddau â’r taeniadau prysur a bywiog â digonedd o gymeriadau doniol a manylion cudd i’w darganfod.  

Llyfr gwych i blant sydd â diddordeb mewn pryfed neu i’w ddefnyddio fel cyflwyniad i’r byd o fwystfilod bach.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn