English Cymraeg

Beastie Bros: The Cabbage Juice Crime

gan David O'Connell

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Scholastic, 2025

  • Adventure
  • Chapter books
  • Fantasy
  • Funny

Am y llyfr hwn

Wedi’i leoli yn Bugtown, mae’r stori bwystfilod bach arbennig o ddoniol hon yn dilyn hynt a helynt y brodyr Dribble a Dash. 

Malwoden yw Dribble sydd wrth ei fodd yn dyfeisio pethau; mae’r rhan fwyaf o’i ddyfeisiadau wedi’u seilio ar fresych, ei hoff fwyd yn y byd i gyd. Pryf tân yw ei frawd mabwysiedig Dash, y mae ei ben ôl yn goleuo pan fo’n hapus. Mae’r pâr wrth eu boddau ag antur, yn enwedig os oes dirgelwch i’w datrys. 

Mae Dribble yn barod i brofi ei ddyfais ddiweddaraf, y Roboslug arswydus, gwlithen fecanyddol enfawr sy’n gallu cnoi trwy goedwigoedd bresych i gynhyrchu galwyni o sudd bresych blasus. 

Pan fydd y brodyr yn stopio i archwilio gollyngiad, mae Roboslug yn cael ei ddwyn gan bâr o glêr y dom drygionus.  

Mae’r brodyr yn hysbysu Sergeant Buzabiz am y lladrad, ond mae’r heddlu yn chwys domen yn ceisio dal gang o arch-droseddwyr sydd wedi dianc o Garchar Bugtown. Mae Dribble wedi’i argyhoeddi mai’r un dihirod sy’n gyfrifol am ddiflaniad Roboslug, felly mae Dash ac yntau yn ymchwilio, â chanlyniadau doniol dros ben.  

Gan gynnwys lluniau helaeth o waith celf du a gwyn, mae gan y stori drosedd ddwl hon blot gwallgof a chast o gymeriadau pryfed byrlymus..

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn