English Cymraeg

Slug Life

gan Moesha Kellaway

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Rocket Bird Books

  • Funny
  • Non-fiction
  • Picture books

Am y llyfr hwn

Mae Stevie wedi cael llond bol o fod yn hen wlithen afiach ac wedi cael digon o gael ei alw’n bla gan bobl. Fe yw’r wlithen fwyaf blin yn y byd!

Felly mae Stevie yn ymuno â chwrs hunan-barch i wlithod i ddysgu am yr holl bethau sy’n gwneud gwlithod yn arbennig. Dilynwch ei daith a dysgwch ochr yn ochr ag e wrth iddo ddarganfod bywydau annisgwyl o ddiddorol gwlithod yn y llyfr lluniau gwych hwn gan Moesha Kellaway. 

Gan gyfuno swyn a chymeriadau llyfr lluniau naratif gyda ffeithiau a diagramau llyfr ffeithiol, mae Slug Life yn dathlu byd gwlithod mewn ffordd arbennig o ddifyr. Ceir gwlithod arbennig o hy, llwybrau tanddaearol sy’n troelli drwy’r llyfr, ffeithiau gwirioneddol ddiddorol, manylion i’w darganfod yn y lluniau, a hyd yn oed rhan debyg i lyfr comics.  

Mae’r llyfr hwn yn berffaith i’w ddarllen yn yr ysgol neu gartref. Mae’n ddwl, ond mae hefyd yn cysylltu â’r cwricwlwm gwyddoniaeth trwy esbonio cylchoedd bwyd a disgrifio nodweddion anifeiliaid.

Ar ôl ei ddarllen, efallai y byddai’r plant yn mwynhau creu eu gwlithod eu hunain, tynnu lluniau twneli gwlithod, neu ddefnyddio peintio bawd a llygaid mawr i gopïo’r lluniau syml o wlithod.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn