English Cymraeg

Rhewyn a’r Côrachod

gan Catrin Angharad Jones, darluniau gan Sian Angharad

Oedran diddordeb: 4 i 7
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Lolfa, 2026

  • Picture books

Am y llyfr hwn

Mae Pegwn y Gogledd yn fwrlwm o gyffro wrth i bawb paratoi ar gyfer y nadolig. Mae’r corrachod yn arbennig o brysur yn ymarfer ar gyfer eu cyngerdd Nadolig.Ond mae problem gan côr y côrachod mae un aelod, Rhewyn, yn methu’n lan a cadw mewn tiwn! Gyda’r gyngerdd fawreddog yn brysur agosau mae ffrindiau Rhewyn yn awgrymu iddo fynd tu allan i ymarfer. Ond dydy’r ceirw, na’r eirth wen, na’r morfil ddim yn mwynhau canu Rhewyn chwaith. Mae Rhewyn yn teimlo’n ddi-galon iawn, pan, gyda lwc mae’n dod o hyd i ogof ia. Yno, gallu canu heb unrhyw gynulleidfa i gwyno - ond dydy ei ganu ddim yn gwella dim. Wrth i Rhewyn ganu mae’r waliau crynu ac mae’r clychau ia yn gwneud synau hyfryd ‘tinc’ ‘tonc’ wrth ddisgyn i’r llawr. Mae Rhewyn yn sylweddoli trwy ddefnyddio’r clychau ia mae’n gallu adeiladu offeryn bydd yn alluogi iddo fod yn rhan o’r gyngerdd Nadolig Fawreddog wedi’r cyfan.  Dyma lyfr gwych I ddarllen ar goedd. Mae’n llawn odl ac mae digon o gyfle i wrandawyr ifanc i ymuno yn y darllen. Mae’r lluniau lliwgar yn enwedig o wisgoedd unigryw y corrachod yn gwneud y llyfr yn un bydd yn bachu sylw unrhyw ddarllenwr ifanc. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn