English Cymraeg

Nos Da, Jac Do

gan Casia Wiliam, darluniau gan David Gregory

Oedran diddordeb: 3 i 6

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2026

  • Picture books
  • Early Learning

Am y llyfr hwn

Mae ffrindiau gorau Sali Mali a Jac Do wedi bod yn brysur yn yr ardd trwy’r dydd yn plannu tomatos. Ar ôl bath, swper a brwsio dannedd mae’n amser gwely a dyma le mae’r problemau yn dechrau, fel bydd llawer rhiant yn deall. Hyd yn oed ar ôl diwrnod mor brysur dydy Jac Do methu’n lan a mynd i gysgu. Mae Sali Mali yn trio popeth i helpu’i ffrind medru cae ei lygaid – darllen stori, canu hwiangerddi a hyd yn oed gwneud llaeth cynnes iddo yfed ond does dim byd yn gweithio. Erbyn hanner nos mae Sali Mali wedi blino’n lan a dim ond un syniad sydd ganddi hi ar ôl. Mae hi’n awgrymu bod Jac Do yn trio breuddwydio am dyfu tomato enfawr – tomato digon mawr i ennill gwobr. Wedi cyffroi gan y syniad yma, o’r diwedd mae Jac Do yn cau ei lygaid ac yn mynd i gysgu! Cyn bo hir, mae’r ffrindiau gorau yn cysgu’n braf. Gyda lluniau lliwgar bachog, mae hon yn stori berffaith i blant bach  - yn enwedig cyn amser gwely! 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn