Croeso i BookTrust Cymru

Mae BookTrust Cymru’n gweithio er mwyn ysbrydoli cariad at ddarllen ymysg plant am ein bod ni’n gwybod y gall darllen drawsnewid bywydau.

Bob blwyddyn byddwn ni’n rhannu dros 175,000 o lyfrau a ddewiswyd yn ofalus ymhlith plant Cymru, a dros 230,000 o adnoddau llythrennedd a rhifedd, Ariennir y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae ein gwaith yn cefnogi pob teulu yng Nghymru o flwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn hyd at ddiwedd eu blwyddyn Derbyn yn yr ysgol, gan ddechrau drwy roi anrheg o ddau lyfr BookTrust yn y pecyn Dechrau Da Babi.

Canllaw Llyfrau Gwych Cymru

Dros 100 o’n hoff lyfrau plant dros y flwyddyn ddiwethaf, i blant o 4 oed yr holl ffordd i fyny at 11 oed.  Rydyn ni'n credu mai'r llyfr cywir bob amser yw'r llyfr y mae plentyn eisiau ei ddarllen – a gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn eich ysbrydoli i ddod o hyd i'r llyfr hwnnw.

Gweler Canllaw Llyfrau Gwych Cymru yma

Llyfrau gwych yn Gymraeg a Saesneg

Rydyn ni wedi llunio rhestrau o rai o'n hoff lyfrau plant yn Gymraeg a Saesneg.

Great books for reception school children in Welsh and English / Llyfrau gwych i blant derbyn yn Gymraeg a Saesneg

Mae rhaglen Pori Drwy Stori Derbyn yn ysbrydoli cariad at lyfrau, storïau a rhigymau yng Nghymru. Rydyn ni wedi dewis rhai o’n hoff lyfrau a all helpu i ddatblygu sgiliau siarad, gwrando a rhifedd.

Our Pori Drwy Stori Reception programme inspires a love of books, stories and rhymes in Wales. We’ve picked out some of our favourite books that can help develop …

Great Books for Babies in Welsh and English / Llyfrau Gwych ar gyfer Babanod yn y Gymraeg a’r Saesneg

Ydych chi’n chwilio am lyfrau Cymraeg neu Saesneg i’w darllen i’ch baban?

Are you looking for books to read to your baby in Welsh or English?

Rhyming books in Welsh and English / Llyfrau mydr ac odl yn Gymraeg a Saesneg

The Books Council of Wales have selected some of their favourite rhyming books in Welsh and English. It aims to promote and encourage fun and enjoyable rhyme sharing activity for children in Wales aged 0-5, in Welsh and English.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi dewis rhai o'u hoff lyfrau sy'n odli yn Gymraeg a Saesneg.

Ydych chi’n gweithio gyda phlant 0-5 oedyng Nghymru?

Wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau,adnoddau a hyfforddiant
ar gyferymarferwyr ac athrawon.

Cofrestru...

Rhaglenni BookTrust yng Nghymru

Dechrau Da yng Nghymru

Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau, straeon a rhigymau! Drwy gyfrwng Dechrau Da, mae BookTrust Cymru’n gwneud yn siŵr fod gan bob plentyn yng Nghymru ei lyfrau’i hun yn y cartref, ac mae’n cefnogi teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd yn rheolaidd.

Clwb Bocs Llythyrau yng Nghymru

Mae’r Clwb Bocs Llythyrau’n annog darllen er pleser a dysgu gartref. Mae’n helpu gwella gobeithion addysgol plant sy’n derbyn gofal. Yng Nghymru, mae parseli’n cynnwys llyfrau a deunyddiau ychwanegol yn Gymraeg.

Pori Drwy Stori

Rhaglen ddwyieithog ar gyfer plant oedran Derbyn ag ystod o alluoedd yw Pori Drwy Stori. Mae’r rhaglen yn adeiladu ar gynllun poblogaidd dechrau Da, a anelir at blant ifancach.

Hefyd i Gymru

Yr adnoddau diweddaraf i Gymru

Twitter

Dilyn ni