Canllaw Llyfrau Gwych CymrCanllaw Llyfrau Gwych Cymru i Deuluoedd

Yma gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar rannu straeon gyda'ch teulu a darganfod ein Canllaw Llyfrau Gwych Cymru, sy'n llawn dros 100 o argymhellion o lyfrau Cymraeg, Saesneg a dwy-ieithog gwych i blant 4-11 oed.

Ar y dudalen hon gallwch:

  • Wylio ein fideo am rannu llyfrau gyda'ch gilydd pan fydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol gynradd
  • Lawrlwytho ein Canllaw Llyfrau Gwych Cymru, sy'n llawn argymhellion darllen a ddewiswyd yn ofalus
  • Chwilio am gystadlaethau hwyliog i ennill llyfrau i'ch teulu
  • Gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr Pori Drwy Stori

Canllaw Llyfrau Gwych Cymru

Dros 100 o argymhellion darllen arbenigol ar gyfer plant 4-11 oed — mae rhywbeth at ddant pawb yng Nghanllaw Llyfrau Gwych Cymru!

Dysgu rhagor

Pam mae darllen mor wych

Mae plant sy'n darllen yn fwy tebygol... O oresgyn anfantais sy'n cael ei achosi gan anghydraddoldebau / O fod yn hapusach ac yn iachach / O wneud yn well yn yr ysgol / O ddatblygu empathi a chreadigrwyddMae ymchwil yn dangos bod gan ddarllen rai manteision anhygoel i blant! Mae plant sy'n darllen yn fwy tebygol o:

  • Oresgyn anfantais sy'n cael ei achosi gan anghydraddoldebau
  • fod yn blant iachach a hapusach sydd â gwell lles meddyliol a hunan-barch
  • Wneud yn well yn yr ysgol a gwneud mwy o gynnydd ar draws y cwricwlwm
  • Ddatblygu creadigrwydd ac empathi

Dysgu rhagor

Rhagor o adnoddau

Pori Drwy Stori

Dysgwch fwy am Pori Drwy Stori. Rhaglen ddwyieithog gyffrous ar gyfer plant Meithrin a Derbyn, i gefnogi llythrennedd a rhifedd plant, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

AmserGartref BookTrust Cymru

Chwilio am rywbeth hwyl i’w wneud fel teulu? Mae gennym straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu a gemau a gweithgareddau hwyliog gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr gorau Cymru.

Cystadlaethau

Rhowch gynnig ar ein cystadlaethau hwyliog a gallech ennill gwobrau llyfrau gwych.