English Cymraeg

Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 10 i 11 oed

Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 10–11 oed.

Wrth siopa am deitlau Canllaw Llyfrau Gwych gydag ein partneriaid, bydd arian o’ch archeb yn cael ei roi i BookTrust: Bookshop.org (dolen gysylltiedig) | Browns Books for Students

  • Fia and the Last Snow Deer

    gan Eilish Fisher, darluniau gan Dermot Flynn 

    2024 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Poetry and rhyme

    Wedi’i osod yn Iwerddon gynhanesyddol yn ystod gaeaf diddiwedd, mae Fia a’i charw eira yn cychwyn antur beryglus i ddod o hyd i’r Deer Mother a dod â chynhesrwydd a gobaith yn ôl i’w phobl.

  • Time Keys: Hunt For the Golden Scarab

    gan M G Leonard, darluniau gan Manuel Sumberac 

    2025 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Around the world
    • Coming-of-age
    • Science fiction
    • Thriller

    Mae’r antur llithro drwy amser afaelgar, llawn cyffro hon yn ysgubo’r darllenwyr i ffwrdd i’r Aifft, hynafol a modern, ac yn llawn manylion hanesyddol diddorol sy’n cael eu byw yn y person cyntaf. 

  • The Boy Who Cried Ghost

    gan Ian Eagleton 

    2024 9 i 14 years 

    • Coming-of-age
    • Ghost story
    • Neurodiversity
    • OCD

    Mae’r stori dod i oedran graff a chythryblus hon yn ddathliad o gyfeillgarwch, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n rhoi cipolwg i ddarllenwyr ar feddwl rhywun sy’n byw gydag anhwylder obsesiynol-gorfodaethol. 

  • Reek

    gan Alastair Chisholm, darluniau gan George Caltsoudas 

    9 i 14 years 

    • Adventure
    • Coming-of-age
    • Science fiction
    • Thriller
    • Dystopia

    Wedi’i gosod yn erbyn cefndir trychineb hinsawdd, mae’r nofel gyffrous afaelgar hon yn drymaidd o atmosfferig gan ei bod yn cyfleu realiti lle na allwch chi anadlu os na allwch chi dalu. 

  • Mallory Vayle and the Curse of Maggoty Skull

    gan Martin Howard, darluniau gan Pete Williamson 

    2024 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Fantasy
    • Funny
    • Ghost story
    • Horror

    Mae Mallory Vayle yn dod i gytundeb rhyfedd gyda phenglog 500 mlwydd oed: cymorth i ryddhau ysbrydion ei rhieni o ysbryd drwg yn gyfnewid am wig gwallt melyn a chodi melltith hynafol. Stori frawychus ddoniol. 

  • Rise and Fall: Great Empires that Shaped the World

    gan Peter Allen 

    2025 9 i 14 years 

    • Historical
    • Non-fiction

    Adnodd ffeithiol ardderchog sy’n arddangos naw diwylliant diddorol, gan edrych ar sut y daeth pob ymerodraeth i rym, a beth oedd ei harwyddocâd.

  • The Haunting of Fortune Farm

    gan Sophie Kirtley, darluniau gan Ben Mantle 

    2024 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Ghost story

    Mae Edie yn cael ei gwthio i fyd o ysbrydion aflonydd a rhyfelwyr Llychlynnaidd arswydus yn y stori ysbrydion ddychrynllyd hon a fydd yn gyrru ias i lawr eich cefn. 

  • Relic Hamilton: Genie Hunter

    gan Joseph Coelho, darluniau gan Hyun Song We 

    2024 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Fantasy

    Pan fydd y bachgen 12 oed ag obsesiwn â hanes, Relic Hamilton, yn rhyddhau genie anfad ar ddamwain, mae’n cael ei ysgubo i ffwrdd ar antur lawn bwrlwm drwy amser i’w ddal, ochr yn ochr â chymdeithas gyfrinachol o helwyr genies sy’n arbenigwyr technoleg. 

  • The Boy to Beat the Gods

    gan Ashley Thorpe 

    2024 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Around the world
    • Coming-of-age
    • Fantasy
    • Myths and legends
    • Thriller

    Gyda golygfeydd brwydr llawn dychymyg, a naratif egnïol, mae antur ffantasi lawn hwyl hon wedi’i hysbrydoli gan agweddau ar ddiwylliant ac ysbrydolrwydd Caribïaidd ac Affricanaidd. 

  • Birdie: Selected for Bookbuzz Secondary 2026

    gan J P Rose 

    2024 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Coming-of-age
    • Historical

    Yng nghyd-destun stori antur gymhellol, yn ymgorffori hanes cymdeithasol a drama sy’n bygwth bywyd, mae’r ferch hil gymysg Birdie yn dioddef hiliaeth ofnadwy ond hefyd yn canfod cyfeillgarwch annisgwyl. 

  • I am Rebel

    gan Ross Montgomery 

    2024 9 i 14 years 

    • Adventure

    Mae’n rhaid i Rebel y ci ddod o hyd i’w ffrind Tom cyn i Tom a’i ffrindiau y gwrthryfelwyr wrthdaro â byddin y Brenin. Antur gyffrous i bawb sy’n caru anifeiliaid, wedi’i hadrodd yn llais Rebel. 

  • The Line They Drew Through Us

    gan Hiba Noor Khan 

    2025 9 i 14 years 

    • Around the world
    • Coming-of-age
    • Historical

    Golwg hygyrch, dyngarol ar Raniad India ym 1947, o safbwynt profiadau tri o blant a’u teuluoedd. 

  • The Boy With Big Decisions

    gan Helen Rutter 

    2025 9 i 14 years 

    • Coming-of-age
    • Interactive

    Llyfr rhyngweithiol am ddewis, gonestrwydd a rheolaeth lle mae’r darllenydd yn helpu Fred Timple i wneud penderfyniadau sy’n ei ddychryn yn lân er mwyn ceisio cael ei ddiweddglo hapus ei hun.

  • How to be Disabled and Proud

    gan Cathy Reay, darluniau gan Jaleel Hudson 

    2025 9 i 14 years 

    • Non-fiction
    • Disability

    Canllaw ymarferol a grymusol i lywio’r byd fel person anabl. Mae’r llyfr cynhwysol a gwresog hwn ar gyfer pawb. 

  • Land of the Last Wildcat

    gan Lui Sit, darluniau gan David Dean 

    2025 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Around the world
    • Chapter books

    Stori antur a dirgelwch hudolus a chyffrous am y Cwri, cath wyllt chwedlonol Ynys Linger.

  • Vanya and the Wild Hunt

    gan Sangu Mandanna, darluniau gan Kristina Kister 

    9 i 14 years 

    • Fantasy
    • ADHD

    Mae’r ferch 11 oed Vanya yn cael ei thaflu i fyd hud ac angenfilod lle mae’n ymuno ag ysgol hud Auramere. Yno, mae’n rhaid iddi frwydro yn erbyn grymoedd yr Old Ones a chyfrinach deuluol dywyll. 

  • Café Chaos

    gan Catherine Wilkins, darluniau gan Katie Abey 

    9 i 14 years 

    • Funny

    Mae caffi teulu Hope angen arian yn daer, ond a all gwisgo fel hufen iâ enfawr wir yn ei achub? Hawdd uniaethu ag e, doniol a pherthnasol i bawb sy’n symud i’r ysgol uwchradd. 

  • Ella Jones vs the Sun Stealer

    gan Lucy Edwards and Katy Birchall, darluniau gan Caroline Garcia 

    9 i 14 years 

    • Adventure
    • Myths and legends
    • Disability

    Mae’r holl ddynol ryw wedi cael eu rhoi mewn tywyllwch gan dduw paganaidd a dim ond Ella Jones a’i chi tywys ffyddlon all eu hachub. Cyffrous. 

  • The Dawn of Adonis

    gan Phil Earle 

    2025 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Historical

    Mae’r cydymaith hwn i When the Sky Falls gan Phil Earle yn antur gyffrous a dychrynllyd i achub epa bach yn Llundain.

  • The Blockbusters!

    gan Frank Cottrell-Boyce, darluniau gan Steven Lenton 

    2025 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Around the world
    • Chapter books
    • Funny

    Pan fydd Rafa yn newid lle gyda seren ffilm, mae’n mynd ar antur anhygoel, sy’n mynd ag e yr holl ffordd i Hollywood ar awyren breifat. Yn llawn hiwmor, mae’r stori anhygoel hon yn un anodd ei rhoi o’r neilltu. 

  • Clem Fatale Has Been Betrayed

    gan Eve Wersocki Morris, darluniau gan Honie Beam 

    9 i 14 years 

    • Historical
    • Mystery

    A all Clem ddod o hyd i’w thad, arweinydd y Spider Gang, yn isfyd troseddwyr Llundain? Antur ddirgelwch llawn miri wedi’i gosod ym 1951.

  • After

    gan Pádraig Kenny 

    2025 9 i 14 years 

    • Dystopia
    • Science fiction

    Mae Jen a Father yn chwilio am gartref newydd mewn byd sydd wedi’i ddinistrio. Ond mae ganddyn nhw gyfrinach: mae Father yn ddeallusrwydd artiffisial sy’n ymddangos fel bod dynol, y mae eraill yn ei ofni. Mae hwn yn gyffrous ac yn peri i rywun feddwl gan gynnwys llawer i’w drafod. 

  • Weird Philosophy

    gan Brandon Robshaw, darluniau gan Paul Hammond 

    2025 9 i 14 years 

    • Funny
    • Non-fiction

    Myfyriwch ar rai o gwestiynau athronyddol mwyaf cymhleth y byd gyda’r llyfr doniol hwn â lluniau sy’n peri i rywun feddwl. 

  • Grimstink

    gan Daniel Peak 

    2025 9 i 14 years 

    • Adventure
    • Funny

    Mae Grimstink wedi cyrraedd y Ddaear i’w ddinistrio, ac yn gyfnewid mae Layla wedi cael ei chludo i’r blaned gartref e. A all hi ddod o hyd i ffordd o achub pawb – ac a oes wir raid iddo gynnwys ei brawd iau plagus? Antur ofodol ddoniol dros ben. 

  • Anzu and the Realm of Darkness

    gan Mai K. Nguyen 

    9 i 14 years 

    • Adventure
    • Graphic novels

    A all Anzu drechu brenhines greulon yr isfyd? Nofel luniau syfrdanol o wreiddiol.