Anzu and the Realm of Darkness
gan Mai K. Nguyen
Oedran diddordeb: 9 i 13
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Piccadilly
Am y llyfr hwn
Mae Anzu newydd symud adref yn ystod Obon, cyfnod i gofio cyndadau. Ond nid yw’n teimlo fel dathlu; mae’n teimlo wedi’i hynysu gan ei threftadaeth Japaneaidd, ac embaras oherwydd y plant ysgol a bigodd arni am fod yn wahanol.
Yna, pan fo ci yn dwyn amwled ei nain, mae’n cael ei hun ar goll yn Yomi, teyrnas isfyd Shinto. Rheolir y wlad hon o dywyllwch gan y Frenhines Izanami hardd ond creulon ac mae’n llawn bodau hudolus o draddodiadau llên gwerin Japan. Mae’n rhaid i Anzu gyfuno â’r ci, sy’n gwasanaethu fel porthor, i ddinistrio Izanami a rhyddhau eneidiau plant y mae wedi eu carcharu; ond dim ond trwy dderbyn ei gwir hunan y gall hi ddatgloi’r grym i wneud hynny.
Mae’r nofel luniau rhyfeddol o wreiddiol hon yn symud ymlaen ar garlam ac yn llawn bwrlwm. Mae arddull ddarlunio Nguyen yn ychwanegu cymeriad a manylder hyfryd at sylfeini chwedlonol y stori hon, ac efallai’n wir y bydd darllenwyr yn cael eu hysbrydoli i ddarganfod mwy am lên gwerin Bwdhaidd a Shinto. Yn ogystal â'i dilyniannau dynamig, mae’r testun hwn hefyd yn trafod themâu hunaniaeth a chynrychiolaeth yn fedrus iawn. Mae’r frwydr am y deyrnas yn gweithio fel metaffor ar gyfer trafferthion Anzu ei hun gyda derbyn ei threftadaeth yn wyneb dylanwadau diwylliannol sy’n gwrthdaro.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
-
Rune: The Tale of a Thousand Faces
9 i 14 years
-
Gwen ac Arianrhod
9 i 14 years
-
Boss of the Underworld: Shirley vs the Green Menace
5 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 10 i 11 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 10–11 oed.