English Cymraeg

The Boy Who Cried Ghost

gan Ian Eagleton

Oedran diddordeb: 9 i 11

Cyhoeddwr Scholastic, 2024

  • Coming-of-age
  • Ghost story
  • Neurodiversity
  • OCD

Am y llyfr hwn

Mae Richard yn teimlo mewn perygl drwy’r amser. Mae’n cael meddyliau ymwthiol; ei fod yn berson drwg, y bydd pethau ofnadwy yn digwydd i’r bobl y mae’n eu caru. 

Mae popeth yn codi ofn arno, felly pan fydd yn symud tŷ, nid yw’r peth yn y cwpwrdd dillad yn ddim eithriad. Y cwbl y mae’n ei wneud yw ychwanegu ei hun at restr faith o bethau i’w hofni. Ond cyn belled ag y bydd Richard yn parhau i wirio bod y clo, y rhaff a’r tâp lliain yn ei ddal yn ddiogel yn ei le, mae’n gallu ymdopi â’r ofn. Ond mae’n rhaid iddo barhau i wirio. A gwirio. 

Yna, pan fydd cymydog llawn bwriadau da yn agor y drws, mae’r ‘rhywbeth drygionus, bwganllyd, dieflig yn cael ei ryddhau ac mae byd Richard ar chwâl. A all e argyhoeddi unrhyw un bod yr ysbryd yn wir neu a fyddan nhw’n meddwl mai un arall o’i ofidiau afresymol yw e?  

Mae’r stori dod i oedran graff a chythryblus hon yn ddathliad o gyfeillgarwch, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n rhoi cipolwg i ddarllenwyr ar feddwl rhywun sy’n byw gydag anhwylder obsesiynol-gorfodaethol.  

Er bod anhwylder obsesiynol-gorfodaethol yn rheoli bywyd Richard ar ddechrau’r llyfr, nid yw’n gymeriad un dimensiwn felly, yn ogystal ag archwilio dioddefaint a thrawma, mae ei daith yn llawn dewrder, cyfeillgarwch, cefnogaeth a gobaith.    

Antur oruwchnaturiol gyffrous â dyfnder ychwanegol.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn